Ar nos Iau 19 Mehefin mewn dathliad arbennig yng Nghanolfan S4C yr Egin, cyhoeddwyd 13 o enillwyr gwobrau ar gyfer myfyrwyr, prentisiaid a staff o’r sector addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau ac ysgolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Uchafbwynt y noson oedd datgelu enillwyr cyntaf erioed Gwobr Ysbrydoli Eraill. Enillodd Aminata Jeng o Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd a Jacob Simmonds o Ysgol Gymraeg Gwynllyw y wobr am eu gwaith yn dylanwadu ac yn ysbrydoli eu cyd-ddisgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg. Gwobrwywyd Aminata am ei gwaith arbennig ym maes cydraddoldeb a’r Gymraeg. Meddai Amie:
“Fel aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb fy ysgol ac fel llysgennad ysgol i'r Coleg Cymraeg , rwy’n ymfalchïo yn fy Nghymreictod ac yn cymryd pob cyfle i herio’r ystrydebau sydd yng nghlwm â’r iaith. Rwyf yn aml yn lleisio barn a chynnig syniadau newydd er mwyn cynyddu cydraddoldeb o fewn yr ysgol ac yn yr ardal leol a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r wobr hon yn golygu cymaint i mi oherwydd mae’n dyst bod unrhyw beth yn bosib os rydych yn cadw ati a pheidio rhoi’r gorau iddi dros yr hyn sy’n bwysig i chi.”
Gwobrwywyd Jacob Simmonds am ei waith blaenllaw yn hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith ei gyfoedion a dysgwyr iau’r ysgol, yn ogystal â phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol a chymdeithasol. Meddai Jacob:
“Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd enfawr. Mae’r gydnabyddiaeth wedi rhoi hwb i mi barhau i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg. Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio gweithio fel Athro Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfleoedd cyfartal i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.”

Luca McAlpine, sy’n astudio Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg y Cymoedd oedd enillydd Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury. Mae’r wobr yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaeth. Gwobrwywyd Luca am ei ymdrechion arloesol yn integreiddio’r Gymraeg i wahanol agweddau o fywyd y coleg, yn arbennig y gymuned LHDTC+.
Meddai Luca:
“Mae'n golygu'r byd i mi fy mod wedi ennill y wobr hon. Mae'n gwneud i mi deimlo fy mod wedi gwneud gwahaniaeth o fewn y gymuned. Byddaf yn parhau i hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg trwy wirfoddoli ac yn fy ngwaith Celf yng Ngholeg y Cymoedd.”

Enillydd Gwobr Cyfraniad Eithriadol at addysg Uwch oedd yr Athro Mirjam Plantinga o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae Mirjam, sydd yn wreiddiol o’r Iseldiroedd ac wedi dysgu Cymraeg, yn gweithio fel Dirprwy Is-ganghellor â chyfrifoldeb dros brofiadau academaidd yn y brifysgol. Meddai:
“Rwy’n gobeithio bydd ein cymuned o fyfyrwyr a chydweithwyr yn elwa o’m gwobr ac y byddwn yn parhau gyda’n gilydd i ddatblygu’r profiadau Cymraeg i’n myfyrwyr. Yn bersonol, byddaf yn parhau i ddysgu Cymraeg, a chadw ati i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol a chefnogi eraill i ddefnyddio’r iaith.”
Ceir rhestr lawn o'r enillwyr ar waelod y datganiad hwn
Rhai o gyflwynwyr adnabyddus y noson oedd Miriam Isaac, y gohebydd chwaraeon Rhodri Gomer, ac Elen Wyn, rhoddodd y Gymraeg ar y map yng nghyfres ddiwethaf y Traitors.

Lansio podlediad newydd y Coleg, Beth yw’r Ots?
Hefyd, yn ystod y seremoni, lansiwyd podlediad newydd y Coleg, Beth yw’r Ots? sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc ac yn cael ei gyflwyno gan y gomediwraig, Mel Owen. Mae’r gyfres yn trafod pob math o bynciau yn ymwneud ag astudio neu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg – o symud o’r ysgol i’r brifysgol neu fynd i goleg addysg bellach, i ddechrau gyrfa.

Meddai Mel:
“Mae wedi bod yn hwyl cydweithio gyda’r Coleg a chael y cyfle anhygoel i gynnal sgyrsiau difyr gyda phobl ifanc sydd mor frwdfrydig am siarad a defnyddio’r Gymraeg.
“Roedd clywed am eu profiadau, eu pryderon, eu barn a’u hangerdd dros y Gymraeg yn ysbrydoledig ac rwy’n sicr fydd y podlediad yn apelio’r fawr at gynulleidfa’r Coleg.”
Gellir mynd i wefan y Coleg i wrando ar y podlediadau.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg:
“Mae pob enillydd heno yn haeddu canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith a’u cyfraniad tuag at addysg Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau ac ysgolion. Maent yn codi proffil a statws y Gymraeg yn eu sefydliadau ac yn arddel y safonau uchaf. Diolchwn iddynt am eu gwaith a dymunwn bob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.”
Mae modd gwylio’r digwyddiad yn ôl ar sianel You Tube y Coleg.
Rhestr lawn o’r enillwyr:
Gwobrau Addysg Bellach
- Gwobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury
Cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaeth.
Enillydd: Luca Mc Alpine, Coleg y Cymoedd.
- Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce
Cydnabod cyfraniad prentis sydd wedi dangos dawn arbennig ac wedi serennu yn y gweithle.
Enillydd: Claire Elizabeth Hughes, Coleg Menai Bangor, Grŵp Llandrillo Menai
- Gwobr Addysgwr Arloesol
Cydnabod cyfraniad tiwtor, ymarferwr neu aseswr sy’n darparu addysg Gymraeg mewn ffyrdd arloesol.
Enillydd: Med Richards, Coleg Sir Benfro.
Gwobr Cyfraniad Arbennig Mae’r wobr hon yn cael ei rhoi i aelod o’r tîm rheoli sy'n dylanwadu ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg o fewn ei sefydliad.
Enillydd: Lisa Waters, ACT/Urdd
- Gwobr Cyfoethogi profiad y dysgwr neu brentis.
Cydnabod cyfraniad aelod o staff yn y sector am gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ymysg dysgwyr/prentisiaid mewn amrywiol sefyllfaoedd llai ffurfiol.
Enillydd: Lisa Evans, Coleg Ceredigion.
Gwobrau Addysg Uwch
- Gwobr Meddygaeth William Salesbury
Cydnabod arloesedd prosiect ymchwil neu gyfraniad at weithgareddau cyfredol allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.
Enillydd: Heledd Evans, Prifysgol Abertawe
- Gwobr Merêd
Cydnabod cyfraniad myfyriwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol yn ehangach.
Enillydd: Gemma Waite, Prifysgol Bangor
- Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol
Creu adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol ac o ansawdd uchel sy’n cefnogi myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun Darlithwyr Cysylltiol y Coleg.
Enillydd: Yr Athro Carwyn Jones, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Gwobr Cyfraniad Eithriadol
Cyfraniad eithriadol i addysg uwch. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun Darlithwyr Cysylltiol y Coleg.
Enillydd: Yr Athro Mirjam Plantinga, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
- Gwobr Dathlu’r Darlithydd
Mae’r wobr yn cynnig cyfle i fyfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywyd Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r wobr ar gyfer aelodau o gynllun Darlithwyr Cysylltiol y Coleg.
Enillydd: Dr Non Vaughan Williams, Prifysgol Abertawe
Gwobr Ysgolion:
- Gwobr Ysbrydoli Eraill
Mae’r wobr yn cael ei rhoi i fyfyriwr/wyr yn y chweched ddosbarth mewn ysgol uwchradd sydd wedi ysbrydoli eu cyd-ddisgyblion a thu hwnt i ddefnyddio’r Gymraeg.
Enillwyr: Aminata Jeng, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, a Jacob Simmonds, Ysgol Gymraeg Gwynllyw.