Skip to main content Skip to footer
6 Awst 2026

Addysgwyr Cymraeg yn allweddol i gefnogi pobl i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg

ADD ALT HERE

Mewn digwyddiad ar Faes yr Eisteddfod a drefnir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg), daeth addysgwyr ysbrydoledig a rhai o’u cyn-ddysgwyr ynghyd i drafod rôl hanfodol addysgwyr wrth annog a chefnogi pobl i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd “O addysg i’r gweithle: Rôl allweddol addysgwyr Cymraeg wrth greu gweithluoedd dwyieithog”, yn archwilio sut mae addysgwyr Cymraeg yn ysbrydoli dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, yn cefnogi llwybrau di-dor ar draws y sector ôl-16, ac yn cryfhau’r gadwyn sy’n cysylltu dysgwyr ag addysg chweched dosbarth, addysg bellach, prifysgolion a phrentisiaethau, ac yn y pen draw â gweithlu dwyieithog ar draws pob maes.

Ymhlith yr addysgwyr a oedd yn rhan o'r panel mae Rhian Evans, sy’n Ddarlithydd Gofal Plant yng Ngholeg Gŵyr ac yn enillydd un o wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2024; Siân Morgan Lloyd, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad JOMEC Cymraeg; a Michael Rees, athro Bioleg yn Ysgol Rhydywaun ac un o'r rhai cyntaf i gymhwyso drwy raglen TAR Cymru y Brifysgol Agored.

Hefyd ar y panel roedd cyn-ddysgwr Siân Morgan Lloyd, Lena Mohammed. Wedi ei magu ar aelwyd Saesneg ac yn ddi-hyder yn y Gymraeg, cafodd Lena ei hysbrydoli gan Siân yn y brifysgol i ailgydio yn ei Chymraeg. Aeth ymlaen i ennill un o Wobrau Cyfryngau Cymru 2025 am gyflwyno'r rhaglen radio Islam, Cymru a Ni ar BBC Radio Cymru.

 

Meddai Lena:

“Cyn dechrau yn y brifysgol, nid oeddwn yn defnyddio llawer o’m Cymraeg gan nad oedd fy nheulu na’m ffrindiau’n siarad yr iaith.” 

Ond pan wnes i gwrdd â Siân, roeddwn yn gallu uniaethu â hi gan ei bod hithau o gefndir di-Gymraeg.

“Dangosodd i mi fod lle i mi yn y cyfryngau Cymraeg. Does dim angen dod o gefndir Cymraeg er mwyn ffynnu drwy'r Gymraeg, ac rwy'n angerddol dros annog eraill i fanteisio ar y cyfleoedd y gall yr iaith eu cynnig, fel wnaeth Sian fy annog i.”

 

“Mae’r cyfan yn dechrau yn yr ystafell ddosbarth”

Hefyd ar y panel roedd Rhian Evans, Darlithydd Gofal Plant yng Ngholeg Gŵyr. Cafodd ei disgrifio gan un o’i dysgwyr fel ‘angel’ am roi’r cyfleoedd gorau i’'w dysgwyr.

Meddai Rhian:

“Cefais fy ysbrydoli gan addysgwyr eraill yn fy mywyd, ac rwy'n angerddol dros greu amgylchedd lle gall pob dysgwr fagu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg. Allai ddim pwysleisio digon pwysigrwydd rôl addysgwyr wrth ddylanwadu ar lwybr bywyd unigolion a’u cefnogi i wneud yn siwr bod y llwybr hwnnw’n un dwyieithog. Mae'r cyfan yn dechrau yn yr ystafell ddosbarth.”

 

Ers 2011, mae'r Coleg wedi buddsoddi mewn creu swyddi darlithio a datblygu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog mewn meysydd blaenoriaeth ar draws y sector drydyddol.

Cafodd y drafodaeth ei chadeirio gan Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Addysg Drydyddol y Coleg.

Meddai Rebecca:

“Nod y digwyddiad hwn yw arddangos pwysigrwydd rôl addysgwyr Cymraeg wrth ddylanwadu ar benderfyniadau dysgwyr a'u cefnogi, gan eu harwain i ddilyn gyrfaoedd lle maent yn defnyddio eu sgiliau dwyieithog.

“Mae eu straeon yn amlygu'r rôl allweddol y mae addysgwyr yn ei chwarae wrth meithrin athrawon, gofalwyr, nyrsus, a newyddiadurwyr y dyfodol.”