Heddiw, dydd Mawrth, 21 Gorffennaf 2026, ar faes Sioe Frenhinol Cymru, cynhaliodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (‘y Coleg’) ddigwyddiad arbennig i drafod rôl allweddol amaethyddiaeth yn nyfodol y Gymraeg a phwysigrwydd addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wrth ddatblygu gweithluoedd dwyieithog medrus ar gyfer y sector.
Cafodd Asgwrn Cefn y Gymraeg: Addysg Drydyddol a’r Gweithlu Amaeth Cymraeg ei gynnal ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth.
Roedd y digwyddiad yn nodi dwy garreg filltir bwysig – 15 mlynedd ers sefydlu’r Coleg ac 20 mlynedd o addysgu Amaethyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ôl canfyddiadau Comisiwn Cymunedau Cymraeg, mae 43.1% o weithlu’r sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yn siarad Cymraeg. Roedd y digwyddiad hwn felly yn gyfle amserol i ddod ag arbenigwyr ac arweinwyr addysg ac amaethyddiaeth ynghyd i drafod sut y gall llwybrau addysg – o’r ysgol, i addysg bellach ac uwch, ac ymlaen i’r gweithle – gyfrannu at weithluoedd dwyieithog Cymru.
Un o’r panelwyr oedd Dr Cennydd Jones, Darlithydd Rheolaeth Glaswelltiroedd Amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl astudio Amaethyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a chwblhau doethuriaeth
gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg sefydlodd Rwydwaith Athrawon Amaeth sy'n cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion, colegau a phrifysgolion yn y maes amaeth. Dywedodd Dr Jones,
“Nod y prosiect yw meithrin cysylltiadau rhwng y sector ysgolion, colegau a phrifysgolion er mwyn rhannu arferion da, a chryfhau’r llwybr addysgol di-dor i ddysgwyr sydd am fynd ymlaen i astudio Amaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae fy nhaith bersonol yn enghraifft o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Hefyd ar y panel roedd Sara Roberts, darlithydd Amaeth cyfrwng Cymraeg yng Ngholeg Sir Gâr, Gelli Aur, a awdurodd adnodd, ‘Cynhyrchu Cig’ a gyllidwyd gan y Coleg i gefnogi dysgwyr â’u hastudiaethau. Dywedodd Sara:
“Cefais brofiadau arbennig wrth astudio Amaeth yng Ngelli Aur a Phrifysgol Aberystwyth a rhoddodd yr angerdd a’r hyder i mi weithio yn y sector fel addysgwr i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
“Mae'n ddiwydiant cyffrous, sy'n newid drwy'r amser. Mae angen newid canfyddiadau am yrfa mewn amaethyddiaeth oherwydd mae llawer mwy i’r diwydiant na ffermio. Mae’n cynnig ystod eang o lwybrau gyrfa yn y sector ac mae’r Gymraeg yn hanfodol.”
Ers 2011, mae’r Coleg wedi chwarae rôl ganolog wrth ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ym maes Amaeth. Mae hyn wedi cynnwys ariannu swyddi darlithio a phrosiectau ymchwil doethurol, darparu grantiau pynciol, a chydweithio â cholegau addysg bellach, darparwyr prentisiaethau a phrifysgolion i ddatblygu modiwlau, cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Erbyn hyn, mae modd i ddysgwyr astudio hyd at 80 credyd mewn Amaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Gelli Aur. Yn ogystal, mae’r Brif Ysgoloriaeth, Ysgoloriaeth Defi Fet ac Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg yn cefnogi ac yn annog dysgwyr i astudio yn y maes Amaeth a Milfeddygaeth.
Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg,
“Mae amaethyddiaeth yn llawer mwy na sector economaidd i Gymru – mae’n rhan o wead ein cymunedau a’n hiaith. Er mwyn sicrhau dyfodol ffyniannus i’r sector a’r Gymraeg, mae’n hanfodol ein bod yn darparu llwybrau addysg a hyfforddiant clir sy’n galluogi pobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfrannu at ein gweledigaeth o greu gweithluoedd dwyieithog i Gymru.”
Yn ymuno â’r panel hefyd roedd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau (Rhaglenni Gwledig) Mentera, a Teleri Morgan, un o raddedigion diweddar Amaethyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, a gwblhaodd raglen i raddedigion Wynnstay ac sydd bellach yn gweithio i'r cwmni’n llawn amser.
Mel Owen, cyflwynydd S4C, oedd yn llywio'r drafodaeth
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.