Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi enwau 32 o lysgenhadon newydd ar draws 21 ysgol uwchradd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Rôl y llysgenhadon ydy codi ymwybyddiaeth ymhlith eu cyd-ddisgyblion a phobl ifanc o’r manteision i barhau gyda’u sgiliau Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
Ymhlith y criw newydd eleni mae Timur Paschenko, disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Y Bont Faen ym Mro Morgannwg. Ers symud i Gymru o Wcráin, mae Timur wedi ymdrochi ei hun yn yr iaith Gymraeg, ac wedi dewis astudio Cymraeg Ail Iaith fel pwnc Lefel A. Meddai Timur:
“Dwi wedi syrthio mewn cariad gyda’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Hoffwn i gyfrannu at gadw'r iaith yn fyw achos mae'r iaith yn hardd iawn ac mae'n rhan bwysig o ddiwylliant y wlad.
“Roeddwn yn awyddus i astudio’r Gymraeg fel pwnc Lefel A oherwydd mae’n cynnig llawer o gyfleoedd gyrfa, ac mae’n rhoi’r cyfle i chi ddysgu yn ddyfnach am ddiwylliant Cymru sydd mor ddiddorol i mi.
“Fel person o Wcráin, dw i’n deall sut mae’n teimlo pan mae eich iaith o dan fygythiad. Teimlaf y byddaf yn llysgennad gwych dros yr iaith Gymraeg i atgoffa pobl ifanc pa mor arbennig ac unigryw ydyw.
“Dwi’n falch iawn o’r cyfle.”
Mae Kitty Walton o Ysgol Bryn Tawe, Abertawe wedi cael ei dewis i fod yn Llysgennad Ysgol i'r Coleg hefyd. Mae wrthi’n astudio Lefel A mewn Hanes, Gwleidyddiaeth a’r Gymraeg. Fel chwaraewraig rygbi , mae Kitty yn gobeithio cael y cyfle i chwarae rygbi dros Gymru yn y dyfodol. Meddai Kitty:
“Byddai chwarae dros fy ngwlad yn anhygoel! Dwi wrth fy modd yn chwarae rygbi a’r iaith Gymraeg, felly hoffwn gyfuno’r ddau a chael gyrfa yn y cyfryngau Cymraeg fel gohebydd chwaraeon.
“Rwyf yn dod o deulu lle fi yw’r unig un sy’n siarad Cymraeg. Felly mae’r ffaith fy mod i’n siarad Cymraeg ac wedi parhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Lefel A yn rhywbeth mae fy nheulu yn falch iawn ohono.”
Cerddoriaeth ydy diddordeb Tomos Morgans o Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin. Yn ogystal â astudio Cerddoriaeth fel un o’i bynciau Lefel A, yn ei amser hamdden mae’n ddrymiwr mewn band lleol ac yn rhoi gwersi drymio i blant. Fel llysgennad, mae’n gobeithio hyrwyddo’r Gymraeg drwy gerddoriaeth. Meddai Tomos:
“Dwi’n defnyddio’r Gymraeg wrth astudio, a thu allan i’r ysgol hefyd wrth fy ngwaith gwirfoddol mewn clwb drama lleol, ac yn fy swydd yn addysgu drymio i blant.
“Rwy’n gobeithio bod yn ddylanwad positif ar bobl ifanc i ddangos bod llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith mewn ffordd ysgafn a hwyl.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr hefyd at yr holl gyfleoedd byddaf yn eu derbyn dros y flwyddyn nesaf fel llysgennad.”
Mae gwaith y llysgenhadon wedi dechrau’r tymor hwn a bydd eu gwaith ar hyd y flwyddyn yn cynnwys rhannu negeseuon yn eu hysgolion am fanteision defnyddio’r Gymraeg, cynrychioli’r Coleg a’u hysgol mewn digwyddiadau cenedlaethol amrywiol, yn ogystal â chreu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol i ddylanwadu ar eu cyfoedion.
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Marchnata'r Coleg:
“Mae’r cynllun Llysgenhadon Ysgol yn boblogaidd iawn ar draws Cymru gyda nifer o ysgolion yn cysylltu gyda ni yn frwdfrydig i fod yn rhan o’r cynllun.
“Mae’r disgyblion yn magu llawer o sgiliau a phrofiadau newydd wrth fod yn lysgennad ac mae eu gwaith yn dylanwadu ar eu cyfoedion yn werthfawr tu hwnt, gyda nifer yn gweld budd o barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
"Rydym ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r criw newydd eleni."
I ddarganfod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn eu gwaith yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg.
Tik Tok, Instagram, Linked In, Bluesky a Facebook: @colegcymraeg