Skip to main content Skip to footer
3 Awst 2026

Bwrsariaeth newydd S4C yn agor drysau i fyfyrwyr creadigol sydd wedi’u tangynrychioli

ADD ALT HERE

Heddiw (15:00, dydd Llun, 3 Awst, 2026) cyhoeddodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac S4C enillwyr ei fwrsariaeth newydd sy’n cefnogi pobl o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli i ddilyn cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn y diwydiannau creadigol.

Dyma’r tro cyntaf i Fwrsariaeth S4C gael ei chynnig gan y Coleg ac roedd ar agor i fyfyrwyr Du, Asiaidd neu o leiafrifoedd ethnig, myfyrwyr anabl, a myfyrwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig sydd eisiau astudio yn y sector Creadigol.

Bydd y pedwar enillydd yn derbyn cymorth ariannol a chyfleoedd datblygu proffesiynol wrth iddynt barhau ar eu cyrsiau prifysgol ledled Cymru.

1. Cynir Hedd Davies, sy'n wreiddiol o Geredigion

“Dw i wedi dysgu byw gyda fy awtistiaeth ar hyd fy mywyd, ac mae’r fwrsariaeth hon yn mynd i fod o help mawr i mi yn y brifysgol. Gobeithio y bydd y fwrsariaeth yn tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu pobl fel fi sydd wedi ein tangynrychioli – heriau sy’n anweledig i nifer o bobl.”

Bydd y fwrsariaeth yn darparu cefnogaeth i Cynir wrth iddo astudio'r cwrs Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe.

2. Saraha Shehata, sy'n wreiddiol o Gaerdydd

“Mae’r fwrsariaeth hon yn rhoi gobaith i mi. Fel person awtistig o gefndir lleiafrif ethnig, rwy’n gobeithio gallu herio’r stereoteip mai nid dim ond pobl wyn sy’n siarad Cymraeg all weithio yn y cyfryngau yng Nghymru.”

Mae Sarah yn astudio Llenyddiaeth Saesneg, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Caerdydd.

3. Reagan Porter, sy'n wreiddiol o Gaerffili

“Mae ennill y fwrsariaeth hon yn golygu cymaint i mi. Rwy’n edmygu fy mam fel mam sengl, ond mae arian yn brin, felly rwy’n ceisio edrych ar ôl fy nau frawd a chwaer iau cystal ag y gallaf, tra hefyd yn ymdopi â heriau fy iechyd meddwl fy hun. Bydd yr arian hwn yn gwneud byd o wahaniaeth i mi.

“Mae’r Fwrsariaeth hefyd wedi fy ysgogi i fanteisio ar gymaint o gyfleoedd a phrofiadau â phosibl yn y diwydiant ffilm a theledu. Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio dilyn gyrfa fel sgriptiwr ddwyieithog ym maes ffilm a theledu.”

Mae Reagan yn astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

4. Sam Burden, sy'n wreiddiol o Wynedd

“Mae gen i broblemau iechyd meddwl sy’n ei gwneud hi’n anodd gadael y tŷ. Dw i’n aml yn poeni am fy sefyllfa ariannol, sy’n golygu ei bod wedyn yn anodd canolbwyntio ar fy astudiaethau. Mae’r fwrsariaeth yma yn cymryd ychydig o’r straen yna oddi arna i.”

Bydd y fwrsariaeth yn ei gefnogi wrth iddo ddilyn cwrs Celfyddydau Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.

 

Yn ôl Ffion Hughes, Uwch Reolwr Addysg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, “Pwrpas y fwrsariaeth ydy agor drysau i bobl sydd wedi’u tangynrychioli i gamu’n hyderus i’r diwydiannau creadigol.

“Mae’n hollbwysig bod gweithlu’r diwydiannau creadigol yn adlewyrchu Cymru gyfan, ac rydym yn ymwybodol bod gwaith i’w wneud i gyrraedd y nod hwnnw.”

 

Ychwanegodd Sara Peacock, Pennaeth Pwrpas Cymdeithasol S4C, “Mae S4C i bawb ac mae hi’n allweddol bod ein diwydiant yn agored i bawb o bob cefndir.

“Mae cynnwys S4C ar ei orau pan mae’n adlewyrchu Cymru gyfan. Drwy Fwrsariaeth S4C, rydym yn falch o gefnogi sêr y dyfodol ar y sgrîn, yn ogystal â’r talentau y tu ôl iddi.”

 

Cyhoeddi enillwyr Bwrsariaeth Gelf Barbara E. Thomas

Am y tro cyntaf eleni hefyd, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Bwrsariaeth Barbara E. Thomas a cyhoeddwyd enwau’r enillwyr yma hefyd yn yr un digwyddiad

Mae Bwrsariaeth Barbara E. Thomas wedi’i sefydlu i gefnogi myfyrwyr israddedig sy’n astudio Celf neu feysydd cysylltiedig megis dylunio, tecstiliau, cerameg, ffasiwn ac ati, trwy gyfrwng y Gymraeg, mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. 

Enillwyr y fwrsariaeth eleni ydy Lisa Page sydd yn astudio Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Lisa Meleri Williams sy’n astudio Celf Gain ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.