Heddiw (dydd Mercher 5 Awst 2026) ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd enwau’r myfyrwyr sydd wedi ennill bwrsariaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er cof am y diweddar Dr Llŷr Roberts, a fu farw’n sydyn ym Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.
Mae’r fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, ac ar gael i noddi taith dramor i gyd-fynd â’u hastudiaethau.
Bydd pedwar myfyriwr yn derbyn y fwrsariaeth eleni, sy’n werth £500 yr un, i’w cefnogi i deithio i Dde Affrica, Tanzania, Portiwgal a Nepal.
Un ohonyn nhw yw Osian Wyn Griffith, sy’n astudio Bioleg Forol ac Eigioneg ym Mhrifysgol Bangor. Bydd Osian yn cael cyfle i deithio i Barc Natur Arrábida ym Mhortiwgal i archwilio’r bywyd morol yno.
Meddai Osian: “Diolch i’r fwrsariaeth hon, dwi’n bwriadu mynd ar daith i Bortiwgal i ddeifio yn y môr ar hyd arfordir Parc Natur Arrábida. Dw i’n gobeithio gweld enghreifftiau rhagorol o rai o’r pethau dw i’n dysgu amdanynt ar fy nhwrs gradd.
“Mae’r parc yn cynnwys amryw o gynefinoedd morol, ac yn un o’r ardaloedd uchaf o ran bioamrywiaeth yn Ewrop. Bydd hefyd yn gyfle i weld llwyddiant strategaethau er mwyn cydbwyso diogelu bioamrywiaeth â physgota lleol cynaliadwy.”
Bydd Bethan Rosser, sy’n dilyn cwrs y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, yn teithio i Arusha yn Tanzania i gwblhau interniaeth gyfreithiol pedair wythnos.
Dywedodd: “Dw i’n edrych ymlaen at weithio mewn cwmni cyfreithiol rhyngwladol gyda chleientiaid o gymunedau difreintiedig yn Tanzania. Bydd yn ehangu fy nealltwriaeth o’r heriau cyfreithiol a chymdeithasol sy’n bodoli mewn cyd-destun rhyngwladol.”
Mae Elan Haf Henderson yn astudio Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mi fydd hi’n teithio i Waterberg yn Ne Affrica i ddilyn cwrs milfeddygol bywyd gwyllt.
Meddai Elan: “Yn ystod y cwrs, byddaf yn gweithio ochr yn ochr â milfeddygon bywyd gwyllt mewn gwarchodfa, gan gymryd rhan mewn gweithdrefnau megis immobilisation cemegol (dartio), monitro clefydau a pharasitiaid, ac asesu iechyd anifeiliaid gwyllt megis ungulates a rhywogaethau mawr eraill.”
A bydd Sorcha Dempsey-Roberts yn teithio i India a Nepal i gefnogi ei chwrs gradd Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
Meddai Sorcha: “Bydd y daith hon yn caniatáu i mi ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth rwyf wedi’u dysgu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn astudio gofal iechyd, bydwreigiaeth a meddygaeth. Byddaf yn ymuno â thîm sy’n cynnal clinigau mewn ardaloedd gwledig ar draws yr Himalayas.
“Y gobaith yw y bydd y daith hon yn caniatáu i mi addasu i amgylcheddau clinigol gwledig a darparu’r gofal gorau y gallaf i’m cleifion gyda’r offer a’r adnoddau sydd gennyf ar y pryd – yn ystod y daith hon ac i’r dyfodol yng nghefn gwlad Cymru.”
Dr Llŷr Roberts oedd un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg: “Roedd Llŷr yn gydweithiwr annwyl, gweithgar a thalentog iawn. Gwnaeth gyfraniad eang i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac, yn fwy diweddar, ym Mhrifysgol Bangor.
“Roedd yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio. Mae gallu cyfuno rhai o ddiddordebau Llŷr yn y fwrsariaeth hon yn caniatáu i ni gofio amdano, ac yn benodol am ei gyfraniad i fyfyrwyr ledled Cymru.
“Llongyfarchiadau i’r pedwar sydd wedi derbyn y fwrsariaeth eleni – edrychwn ymlaen yn fawr iawn at glywed am eu profiadau ym mhob cwr o’r byd.”
Gwobrwyo myfyrwyr disglair
Hefyd, yn yr un digwyddiad, cyflwynwyd gwobrau i fyfyrwyr a oedd wedi gwneud cyfraniad arbennig at addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector addysg uwch.
Rhestr yr enillwyr:
Gwobr Norah Isaac – Megan Mair Bill, Prifysgol Caerdydd
Gwobr Dr John Davies – Lili Evans, Prifysgol Caerdydd
Gwobr yr Athro Gwyn Thomas – Nanw Maelor Hampson, Prifysgol Aberystwyth
Gwobr Merêd – Emily Evans, Prifysgol Abertawe