Skip to main content Skip to footer
13 Medi 2024

Cyhoeddi cadeirydd newydd Gwerddon!

ADD ALT HERE

Penodwyd Dr Myfanwy Davies, Uwch ddarlithydd mewn polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, yn Gadeirydd Bwrdd Golygyddol Gwerddon, yn dilyn proses enwebu agored a phleidlais ymysg aelodau’r Bwrdd.

E-gyfnodolyn ymchwil amlddisgyblaethol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw Gwerddon, sy’n cyhoeddi erthyglau ymchwil Cymraeg gwreiddiol mewn ystod eang o feysydd academaidd.

Dechreuodd Myfanwy ar ei thymor o dair blynedd ar 1 Medi 2024, ac mae’n olynu Dr Paula Roberts.

Daw Myfanwy o Lanelli’n wreiddiol a derbyniodd ei haddysg ym mhrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Sheffield a Llundain cyn gweithio mewn prifysgolion yn Ffrainc a dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i arwain ystod o brosiectau ymchwil ym meysydd iechyd a lles. Mae wedi ennill dros £1.5 miliwn mewn cyllid ymchwil yn bennaf, ym meysydd iechyd merched a lleiafrifoedd, gyda dros hanner hynny fel arweinydd ymchwil.

Meddai Myfanwy:

“Mae'n fraint i ddilyn ôl troed Paula yn y rôl hon. Roedd ganddi weledigaeth am Gwerddon fel cyfrwng wirioneddol rhyngddisgyblaethol ac ymlyniad cadarn i ddatblygu ymchwilwyr iau, a gwyddonwyr yn enwedig, a byddaf yn parhau â'r gwaith pwysig hwn.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi gweld Gwerddon yn datblygu i fod yn fforwm gwerthfawr i ysgolheigion sy’n medru’r Gymraeg. Rwyf yn awyddus i ddyfnhau rôl Gwerddon fel cyfrwng i gydweithio a datblygu ymchwil newydd, ac fel adnodd i ymchwilwyr iau, yn enwedig trwy’r berthynas â chynadleddau ymchwil y Coleg Cymraeg. Rwy’n awyddus hefyd i ehangu defnydd Gwerddon ac ymwybyddiaeth ohono ymysg cydweithwyr sy’n ddi-Gymraeg.”

Meddai yr Athro Anwen Jones, golygydd Gwerddon:

"Rydym yn falch iawn i groesawu Myfanwy fel cadeirydd newydd y bwrdd. Gyda’i phrofiad helaeth, ei harbenigedd a’i gweledigaeth, rwy’n edrych ymlaen at gydweithio a chefnogi ei hymdrechion i ddatblygu Gwerddon ymhellach dros y cyfnod nesaf”

 Mae gwybodaeth ynghylch cyfrannu erthygl i Gwerddon ar y dudalen hon, neu drwy gysylltu â gwybodaeth@gwerddon.cymru.