Ar ddydd Iau 19 Mawrth bydd Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd arloesol fydd yn canolbwyntio ar feithrin y genhedlaeth nesaf o ohebwyr Chwaraeon Cymraeg. Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad Cyfathrebu Chwaraeon Menywod gael ei gynnal, gyda’r nod o gyfoethogi sgiliau cyfathrebu myfyrwyr sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y maes.
Bydd rhai o enwogion ac arbenigwyr mwyaf profiadol y diwydiant yn cyfrannu gan gynnwys y gohebwyr Gabriella Jukes a Dylan Ebenezer. Bydd Sioned Dafydd hefyd yn rhannu ei thaith bersonol o astudio Cyfryngau trwy gyfrwng y Gymraeg cyn datblygu gyrfa lwyddiannus yn y byd Chwaraeon. A hithau'n flwyddyn Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow, bydd aelodau o Dîm Cymru yn bresennol i rannu eu profiadau ac i drafod rhai o’r pynciau mwyaf llosg yn y byd Chwaraeon heddiw.
Meddai Sioned Dafydd:
“Dwi’n gwybod o fy mhrofiad personol bod hi’n hanfodol i fenywod ifanc gael modelau rôl ym myd darlledu chwaraeon.
“Mae’r gynhadledd hon felly yn ffordd wych o ddod â chymuned ysbrydoledig at ei gilydd, ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr cyfrwng Cymraeg i ddilyn gyrfa yn y diwydiant.”
Mae’r gynhadledd wedi’i ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac wedi ei drefnu gan Andrew Weeks, darlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, a Non Vaughan Williams, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe.
Meddai Andrew:
“Y nod yw darparu hyfforddiant i fyfyrwyr ar sgiliau ymarferol ym meysydd y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus megis gohebu, sylwebu a chyfweld.
"Bydd y gynhadledd hefyd yn tynnu sylw myfyrwyr at bwysigrwydd y Gymraeg ym myd addysg a gwaith."
Ychwanegodd Non:
“Mae cyfathrebu chwaraeon menywod yn bwnc cyfredol sy'n denu llawer o sylw yn y diwydiant ar hyn o bryd.
“Bydd y digwyddiad hwn yn rhan o ymdrech ehangach i gryfhau presenoldeb a dylanwad menywod yn y cyfryngau chwaraeon Cymraeg, ac i ysbrydoli myfyrwyr i gamu’n hyderus i’r sector.”
Mae’r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr chweched dosbarth sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes Cyfathrebu Chwaraeon neu’r Cyfryngau, yn ogystal â myfyrwyr isradd ac ôl-radd sy’n astudio yn y meysydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gynhadledd Cyfathrebu Chwaraeon Menywod, gellir mynd i wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.