Skip to main content Skip to footer
16 Hydref 2026

Cynllun mentora’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn agor drysau i ddisgyblion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i ymuno â’i Gynllun Sbarduno.

Sefydlwyd y cynllun mentora gan y Coleg i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg wrth iddynt barhau â'u hastudiaethau neu symud ymlaen i fyd gwaith.

Ers ei sefydlu yn 2023, mae dros 30 o ddysgwyr wedi bod yn rhan o’r Cynllun.

Bu Aidan Bowen o’r Barri yn rhan o’r cynllun llynedd, ac ei fentor oedd Zachary Mutuambizi, sy’n fyfyriwr Peirianneg ac yn gyflwynydd ar raglen, Stwnsh Sadwrn, S4C. Meddai Aidan:

“Fe wnes i elwa’n fawr o gael mentor oherwydd ro’n i’n gallu uniaethu â rhywun o gefndir tebyg i mi a dysgu ganddo.

“Ges i bum sesiwn awr gydag e, a daethon ni i ‘nabod ein gilydd yn dda iawn. Ro’n ni’n trafod popeth, o waith ysgol i’r camau nesaf, boed hynny’n mynd i’r coleg neu’r brifysgol, a’r drysau sydd ar agor i mi drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rhoddodd y cynllun yr hyder i mi fod yn Llysgennad Cenedlaethol i’r Coleg, a thrwy hynny dw i wedi cael y cyfle i annog eraill i weld gwerth y Gymraeg.”

Aidan Bowen

Bu Maryam Ali o Gaerdydd hefyd ar y Cynllun llynedd ac ei mentor hi oedd Sara Yassine. Mae Sara yn lais amlwg dros amrywiaeth o fewn y gymuned Gymraeg, gan gyfrannu'n gyson at gylchgrawn Golwg yn ogystal â rhaglenni ar BBC Cymru ac S4C.

 

Meddai Maryam,

“Daeth y Cynllun yma ar yr adeg gywir yn fy mywyd i. Ro’n i eisiau mynd i’r brifysgol i astudio Gwaith Cymdeithasol, a rhoddodd fy mentor gefnogaeth ac arweiniad i mi wrth baratoi ffurflen gais gref.

“Dw i’n parhau i ddefnyddio fy Nghymraeg ar bob cyfle posib, a byddaf yn sicr o weld budd y Gymraeg pan fyddaf yn mynd ar leoliad ac yn cyfathrebu â theuluoedd fel rhan o fy nghwrs.

“Mae’r Cynllun hefyd wedi adeiladu fy hyder i ddechrau swydd ran-amser fel Gweithiwr Chwarae mewn ysgol Gymraeg. Mae gallu rhannu fy iaith gydag eraill yn bwysig iawn i mi.”

 

Ychwanegodd Ffion Hughes, Uwch Reolwr Addysg Uwch y Coleg Cymraeg,

“Pwrpas y cynllun yw sicrhau bod pobl ifanc sy’n cael eu tangynrychioli mewn addysg drydyddol Gymraeg yn cael y cyfle i drafod eu dyfodol gyda model rôl sy’n deall eu profiadau a’u dyheadau. Trwy’r gefnogaeth hon, gallwn eu helpu i ddatblygu’r hyder i weld dyfodol lle mae eu sgiliau Cymraeg yn rhan naturiol o’u taith addysgol a’u gyrfa.”

“Mae amrywiaeth a chydraddoldeb wrth galon gwaith y Coleg. Er bod mwy o waith i’w wneud i sicrhau cynrychiolaeth deg ar draws y sector, mae’r Cynllun Sbarduno yn gam cadarnhaol sy’n anfon neges glir fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, beth bynnag eu cefndir.”

Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan bobl ifanc 16-19 oed o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n siarad Cymraeg erbyn 23 Hydref. Ewch i'r dudalen hon ar wefan y Coleg am wybodaeth pellach.