Skip to main content Skip to footer
3 Awst 2026

DA mewn Addysg Gymraeg: Arbenigwyr yn Galw am Gydbwysedd Doeth

ADD ALT HERE

Mewn digwyddiad ar Faes yr Eisteddfod wedi’i drefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg), daeth panel o arbenigwyr ynghyd i drafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n codi wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg.

Cafodd y sesiwn ei gadeirio gan Dr Cynog Prys, sy’n Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ac yn arbenigo mewn ieithoedd lleiafrifol mewn byd cynyddol ddigidol.

Yn ymuno ag ef ar y panel roedd Dewi Bryn Jones, enillydd y Fedal Wyddoniaeth yn 2025 am ei gyfraniad i’r Gymraeg yn y byd digidol; Catrin Bradley, sydd wedi defnyddio DA fel rhan o’i gwaith ymchwil cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei doethuriaeth; a Richard Buckley, Arbenigwr Sicrwydd Ansawdd a Gwelliant gyda’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

Dywedodd Dr Cynog Prys: “Mae Deallusrwydd Artiffisial yn datblygu ar gyflymder, ac mae ei ddefnydd yn dod yn rhan gynyddol bwysig o’r byd addysg, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg.

“Mae’r dechnoleg hon yn gyffrous ac yn cynnig cyfleoedd sylweddol i gefnogi dysgu ac addysgu, ond mae hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch moeseg, asesu a dyfodol y Gymraeg yn y byd digidol.

“Y dasg sydd o’n blaenau yw sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n codi o’r dechnoleg hon, tra’n parhau’n wyliadwrus o’r heriau sy’n dod i’r amlwg.”

Mae’r Coleg wedi ariannu nifer o brosiectau i gryfhau dealltwriaeth o DA mewn addysg, gan gynnwys PhD gan Beca Owen ym Mhrifysgol Bangor sy’n edrych ar rôl DA yn y system addysg Gymraeg a dwyieithog, dan oruchwyliaeth dau o’r panel, Dr Cynog Prys a Dewi Jones.

Mae’r Coleg hefyd wedi ariannu adroddiad gan Kara Lewis ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n edrych ar DA, y Gymraeg ac Addysg Uwch.

Yn ôl Richard Buckley, sydd ar y panel, mae adroddiad Kara wedi bod yn adnodd gwerthfawr yn ei rôl yn arwain Rhwydwaith Uniondeb ac Asesu Cymru, sy’n gweithio i sicrhau bod addysg drydyddol Gymraeg yn ymateb yn effeithiol i’r cyfleoedd a’r heriau a gyflwynir gan DA.

Dywedodd Richard:

“Nododd yr adroddiad fod gan offer DA gryfderau a chyfyngiadau amlwg wrth drin y Gymraeg. Dangosodd fod modd i DA gynorthwyo gyda thasgau megis prawfddarllen a chrynhoi, ond bod cyfyngiadau sylweddol o hyd o ran cywirdeb gramadegol, idiomatig ac ieithyddol.

“Amlygodd y prosiect yr angen brys am ddatblygiad parhaus o adnoddau, terminoleg a hyfforddiant sectorol.

“Ac roedd gan Kara gyngor doeth a chytbwys ar ddiwedd yr adroddiad, sef defnyddio DA fel offeryn i gefnogi dysgu — nid i ddisodli proses feddwl, llais na chyfraniad deallusol.

“Yng ngeiriau Kara: ‘Cadwch eich llais, eich Cymraeg, a’ch barn eich hun yn ganolog i’ch gwaith. Yn syml: chi sy’n gyfrifol am y cynnwys terfynol, nid DA.’”

Hefyd ar y panel roedd Dewi Bryn Jones a Catrin Bradley.

Mae Dewi Bryn Jones yn gweithio i Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor — uned sy’n cydweithio gyda’r Coleg ar y prosiect Termau Addysg Uwch a datblygwyr meddalwedd Cysgliad sy’n helpu dysgwyr a staff ysgrifennu Cymraeg academaidd yn hyderus a chywir. Mae ei waith hefyd yn cynnwys datblygu Macsen, y cynorthwyydd personol digidol tebyg i Alexa.

Tra’n gweithio ar ei doethuriaeth a gyllidwyd gan y Coleg, AR-BRO-FI – Dehongli straeon brodorol yn nhirweddau hudolus Cymru, bu Catrin Bradley yn defnyddio DA i greu dyluniadau a drafftiau cynnar o’r ap newydd. Mae bellach yn ddarlithydd yn PCYDDS ac yn annog myfyrwyr ymchwil eraill i wneud defnydd o DA.