Er mwyn nodi ei bymtheg mlwyddiant, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) yn rhedeg ymgyrch genedlaethol i ddiolch i ddysgwyr a darlithwyr ledled Cymru am astudio, hyfforddi ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
Mae’r ymgyrch #DIOLCHCCC yn cael ei chynnal ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn nodi pymtheg mlynedd ers sefydlu’r Coleg yn 2011. Bydd y Coleg yn diolch i’r dysgwyr sydd wedi chwarae rhan allweddol dros y blynyddoedd wrth astudio a hyfforddi yn y Gymraeg. Mae cynifer ohonynt bellach yn ran allweddol o weithluoedd dwyieithog ar draws amrywiol feysydd gan gynnwys y maes Iechyd a Gofal, Addysg, y Gyfraith a’r Cyfryngau.
Un o’r rhieny sydd wedi elwa o ddarpariaeth Cymraeg ydy Santhi Dosanjh o Bort Talbot. Cafodd Santhi ei hysbrydoli i ailafael yn ei Chymraeg ym Mhrifysgol Abertawe pan gafodd ei pherswadio i astudio rhan o’i chwrs Bio-Cemeg trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae’n athrawes Bioleg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Bro Dur, Port Talbot.
Meddai Santhi:“Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg. Oni bai am y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â’r gefnogaeth ychwanegol a’r ysbrydoliaeth cefais gan fy narlithwyr yn y grŵp Cymraeg, ni fyddwn erioed wedi ystyried mynd ymlaen i addysgu mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
“Dydw i ddim yn dod o deulu sy’n siarad Cymraeg, ond dwi’n awyddus i’r disgyblion dwi’n dysgu edrych arnaf i a chael eu hysbrydoli eu bod nhw hefyd yn gallu llwyddo drwy’r Gymraeg, beth bynnag eu cefndir.”
Astudiodd Erin Bryfdir o Gaernarfon ei chwrs is-radd mewn Nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ac roedd cael y cyfle i barhau i astudio drwy’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol yn gysur mawr iddi.
Meddai Erin:“Dw i’n meddwl, mae o wastad yn rhoi ychydig bach o ofn i fyfyrwyr ysgol sydd wedi tyfu fyny yn siarad Cymraeg pan mae’r step yn dod i symud ymlaen i fynd I’r Brifysgol. Ond on i’n ffodus iawn o fod mewn gwasanaeth ysgol un bore a clywed am fodolaeth y Coleg Cymraeg a bod modd astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.”
Erbyn hyn mae Erin yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn gweithio rhan-amser fel sister, ac yng nghanol astudio am radd meistr mewn Ymarfer Clinigol Uwch. Ychwanegodd Erin:
“Mae’r ffaith mod i wedi gallu cario ymlaen defnyddio’r Gymraeg drwy ’ngyrfa drwy gyfathrebu gyda’r cleifion, ac uniaethu â’r hyn maen nhw’n ei ddweud yn eu mamiaith fel y gallaf ei gyfleu i’r meddyg, yn bwysig iawn. Mae’n braf gallu bod yn lais i’r cleifion.”
Cafodd Osian James, 21 oed, y cyfle i astudio prentisiaeth mewn Gwaith Coed trwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Ceredigion. Mae e’n diolch i’w ddarlithydd, Rhodri Morris, am greu profiad arbennig iddo yn y coleg, ac am ei ysbrydoli i fod yn uchelgeisiol.
Meddai Osian: “Fe wnes i joio astudio am fy mhrentisiaeth. Roedd tua deg ohonom ar y cwrs – pobl debyg i mi – ac roedden ni i gyd yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd. Mae fy niolch mwyaf i’r tiwtoriaid a oedd yn ein cefnogi ni bob cam o’r ffordd.”
Erbyn hyn mae Osian yn gweithio fel saer proffesiynol gyda chwmni AJ Homes yn Aberystwyth. Ychwanegodd:
“Dw i’n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle i hyfforddi a sicrhau swydd yn lleol. Roedd astudio drwy gyfrwng y Gymraeg wedi datblygu fy Nghymraeg i lefel broffesiynol, gan ddysgu terminoleg ar y cwrs, a nawr dwi’n defnyddio’r iaith bob dydd gyda fy nghyflogwr, cydweithwyr a chwsmeriaid.”
Mae Dr Cai Ladd yn Ddaearyddwr Arfordirol ac yn gweithio fel darlithydd Daearyddiaeth cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n ddiolchgar am y cyfle i gyflawni doethuriaeth dan nawdd y Coleg drwy’r Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil, a mynd ati i gael gyrfa yn y maes.
Meddai Cai:“Mae’r iaith Gymraeg a Daearyddiaeth wedi bod o ddiddordeb i mi ers yn grwt ifanc, a theimlaf yn lwcus erbyn hyn fy mod yn gallu gwneud gyrfa allan o’r ddau, gan obeithio ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn llwybrau tebyg.
“Does dim ffiniau i’r iaith Gymraeg. Dwi wedi cael y cyfle i arwain ar ymchwil rhyngwladol ar draws y byd sydd wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt er mwyn dysgu a deall mwy am arfordiroedd Cymru, a datblygu cyrsiau dwyieithog cyfredol i fyfyrwyr.”
Yn ystod yr ymgyrch, mae’r Coleg yn galw ar ddysgwyr, cyn-ddysgwyr a darlithwyr i rannu eu straeon a’u profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #DIOLCHCCC. Nod yr ymgyrch ydy tynnu sylw at effaith addysg drydyddol Gymraeg a dwyieithog ar unigolion, cymunedau a gweithleoedd ar draws Cymru.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae nodi pymtheg mlynedd ers sefydlu’r Coleg yn gyfle pwysig i ddiolch i’r holl ddysgwyr sydd wedi dewis astudio a hyfforddi drwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog ac i'r darlithwyr sydd wedi eu haddysgu a’u cefnogi bob cam o’r ffordd.
“Maent yn hanfodol i genhadaeth y Coleg i greu a chryfhau gweithluoedd dwyieithog ar draws Cymru. Rydym yn hynod falch o’u cyfraniad ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant yn y blynyddoedd i ddod.
“Hoffem gymryd y cyfle hefyd i ddiolch i’n holl bartneriaid – o’r cyrff cenedlaethol i’r darparwyr addysg - am gydweithio gyda ni dros y blynyddoedd ac am eu cyfraniad nhw tuag at wireddu’r weledigaeth o greu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i bawb yng Nghymru.”
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch gellir mynd i wefan y Coleg, ac i gymryd rhan, gellir mynd i gyfrif @colegcymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol ar Instagram, Tik Tok, Facebook a Linked In.