Mae’r Coleg yn galw ar fyfyrwyr, dysgwyr a staff i enwebu unigolion sydd yn gwneud gwahaniaeth arbennig i addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Bydd cyfnod enwebu Gwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2025 yn agor ar ddydd Gwener 31 Ionawr ac yn cau ar 10 Mawrth 2025.
Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu llwyddiannau myfyrwyr, disgyblion, dysgwyr, prentisiaid a darlithwyr sydd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn.
Mae amryw o gategorïau mewn gwahanol feysydd ac mae Gwobrau’r Coleg yn gyfle gwych i gydnabod unigolion sydd yn gwneud gwahaniaeth arbennig yn eu prifysgol, coleg addysg bellach, ysgol neu fel prentis yn y gweithle.
I weld y rhestr lawn o gategorïau, y canllawiau, ac i enwebu, gellir mynd i'r adran ‘Gwobrau’ ar wefan y Coleg Cymraeg.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrau ar 19 Mehefin yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.
Ewch i Instagram, Tik Tok, Linked In, Bluesky, neu Facebook y Coleg i ddilyn yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch stori enillydd Gwobr Dathlu’r Darlithydd 2024, Rhian Wyn Griffiths a’r sawl a’i henwebodd, myfyriwr Gronw Ifan, yn yr adran Newyddion ar wefan y Coleg.