Skip to main content Skip to footer
17 Gorffennaf 2025

Galw ar y llywodraeth nesaf i gynyddu’r nifer o brentisiaethau Cymraeg yn sylweddol

ADD ALT HERE

Ar drothwy etholiad Senedd Cymru yn 2026, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) wedi cyhoeddi ei gynigion maniffesto ac yn galw ar y pleidiau gwleidyddol i’w mabwysiadu er mwyn cyflawni nodau strategaeth Cymraeg 2050 a gwneud y Gymraeg yn rhan annatod o fywyd pob dydd.

Mae’r Coleg yn galw ar i lywodraeth nesaf Cymru ymrwymo i ddau nod er mwyn cynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg:

·        Cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dilyn llwybrau Cymraeg a dwyieithog drwy’r system addysg gyfan, a’r sector trydyddol yn arbennig.

·        Cynyddu’r nifer sy’n gallu ac yn dewis gweithio’n ddwyieithog, gan gynnwys y gweithlu addysg.

I gyflawni’r ddau nod, mae maniffesto’r Coleg yn amlinellu’r camau sydd angen i’r llywodraeth nesaf gymryd gan gynnwys darparu £1m ychwanegol y flwyddyn i’r Coleg er mwyn cynyddu’r nifer o brentisiaid cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, mewn meysydd blaenoriaeth lle mae galw am weithwyr dwyieithog ac yn enwedig mewn ardaloedd sydd â chyfran uwch o siaradwyr Cymraeg.

Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:

“Mae galw amlwg am weithwyr dwyieithog ar draws Cymru, ac yn benodol yn yr ardaloedd ble mae’r canran o siaradwyr Cymraeg yn uwch. Mae pobl ifanc yn yr ardaloedd hyn yn awyddus i fyw a gweithio yn eu cymunedau ac mae’n allweddol bod ganddyn nhw gyfleoedd ac anogaeth i ddilyn hyfforddiant dwyieithog. Mae angen sicrhau bod prentisiaid sy’n siarad Cymraeg ar lwybrau cyfrwng Cymraeg ac mae angen mwy o diwtoriaid, aseswyr a mentoriaid dwyieithog i’w cefnogi nhw ar hyd y daith.”

Mae Cerys Brown yn brentis iechyd a gofal gyda Choleg Gwyr Abertawe. Mae hi’n Weithwraig Cymorth Eiddilwch ar Uned Penderfyniadau Clinigol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Meddai Cerys:

“Rwy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd ar y ward gyda chleifion, ac mae’n gwneud i bawb deimlo’n fwy cartrefol. Ond yn fwy na hynny, mae plant ac eraill sydd mewn argyfwng yn medru cyfathrebu eu symptomau’n well wrth ddefnyddio eu mamiaith. Felly mae’r Gymraeg yn hollbwysig i ni fel gweithwyr iechyd er mwyn darparu’r gofal gorau i’n cleifion.

“Yn ddiweddar, fe wnes i ofalu ar ôl menyw gyda dementia a oedd wedi colli ei gallu i siarad Saesneg, ond roedd ei Chymraeg yn berffaith. Nid oedd y doctor yn ei deall, felly fe wnes i ofalu ar ei hôl a chyfieithu’r wybodaeth bwysig i’r doctor, gan sicrhau ei bod yn derbyn y gofal cywir. Mae angen i ni bwysleisio mor bwysig ydy’r Gymraeg yn y sector iechyd a gofal.

“Dwi mor falch mod i wedi gallu dilyn fy mhrentisiaeth gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ddwyieithog a dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn bod eraill ar draws Cymru yn cael yr un cyfle.”

 

Cefnogir yr alwad am gefnogaeth i sicrhau bod mwy o brentisiaid yn gallu dilyn llwybr Cymraeg a dwyieithog gan y Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Meddai Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol yr NTFW:

“Ein mandad ni i'r llywodraeth nesaf ydy i sicrhau bod mwy o fuddsoddiad ar gael ar gyfer prentisiaethau, a fel rhan o hynny, ryn ni am weld ymrwymiad i gymwysterau Cymraeg. Mae’r NTfW yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i weithio’n agos gyda darparwyr, cyflogai a phartneriaid strategol megis y Coleg Cymraeg i sicrhau bod pob prentis yn gallu cynnal a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Trwy wneud hynny, byddwn yn cryfhau gweithlu dwyieithog Cymru.”

 

Mae Aled Jenkins yn rhedeg cwmni Cartrefi A J Homes yn Aberystwyth ac yn cyflogi prentisiaid. Meddai Aled:

“Rydym yn codi tai i gwmniau datblygu, ffermwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol yn ardal Aberystwyth a’r cyffiniau, a byddwn i’n dweud bod 90% o’n cleientiaid yn siarad Cymraeg. Mae pum person yn gweithio i fi ar hyn o bryd, gyda dau ohonyn nhw’n brentisiaid, a ‘ni gyd yn siarad Cymraeg. Felly Cymraeg yw iaith ein gweithle a’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i’n cwsmeriaid. 

 “Cymraeg bob dydd sydd gen i, nid yw’n spot on, ond dyma fy iaith gyntaf, felly dwi’n falch fy mod i, fy staff, a’n cwsmeriaid yn gallu defnyddio’r iaith sy’n dod yn naturiol i ni.

 “Mae’n bwysig iawn bod cefnogaeth i gael i sicrhau bod prentisiaid fel y rhai sydd gyda ni yn y cwmni yn gallu hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg.”

 

Yn mis Mai 2025 cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg. Mae’r Coleg yn croesawu’r adroddiad sy’n nodi:

 

‘Byddai cynnig prentisiaethau cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn fanteisiol fel rhan o strategaeth o greu gweithleoedd Cymraeg. Byddai hefyd yn fodd o greu amodau ffafriol fel bod mwy o bobl ifanc yn aros yn eu cymunedau. Ond mae darparu prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn gallu bod yn gymhleth; fel arfer, mae angen prentis, cyflogwr, mentor a darparwr sydd yn medru’r Gymraeg. Byddai modd i sefydliadau sector cyhoeddus gynnig mwy o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg wrth gynllunio’n fwy bwriadus. Dylai awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau sector cyhoeddus mawr eraill fynd ati i gynllunio er mwyn gwireddu hyn.’

 

Mae cynigion maniffesto eraill y Coleg yn cynnwys:

·        Darparu cyllid ychwanegol i’r Coleg i gynyddu cyfleoedd i ddysgwyr astudio’n ddi-dor yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

·        Rhoi statws arbennig i’r Gymraeg fel pwnc

·        Gosod blaenoriaethau strategol ar Medr sy’n cefnogi amcanion Strategaeth Cymraeg 2050 ac yn ymateb i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

·        Creu Strategaeth Datblygu Gweithlu Dwyieithog a sefydlu Uned o fewn Llywodraeth Cymru i’w gweithredu a darparu.

Yn ôl y Coleg, ar hyn o bryd, mae canran uchel o ddysgwyr yn rhoi’r gorau i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol yn eu haddysg, gan arwain at lawer o ddysgwyr yn ymuno a’r gweithlu yn methu gweithio’n ddwyieithog. Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:

“Tra bod newidiadau positif ar y ffordd yn sgil Bil y Gymraeg ac Addysg a chynlluniau Medr ar gyfer y Gymraeg, mae’n rhaid i lywodraeth nesaf Cymru gymryd camau yn syth i greu mwy o gyfleoedd i’n dysgwyr ni allu parhau i astudio a hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r heriau cyllidebol digynsail sy’n wynebu darparwyr addysg drydyddol yn peryglu’r cyfleoedd sydd ar gael ac mae bygythiad wirioneddol o golli tir.

“Os ydyn ni am greu gweithlu addysg sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac os ydyn ni am sicrhau gweithlu iechyd a gofal sy’n gallu gofalu trwy gyfrwng y Gymraeg, yna mae angen buddsoddi mewn hyfforddiant cychwynnol sy’n rhoi hyder i bobl ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddyn nhw yn y gweithle.”

Gellir darllen maniffesto llawn y Coleg ar y wefan.