Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) ac S4C yn gwahodd ceisiadau ar gyfer bwrsariaeth newydd i gefnogi pobl o gefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli yn y sector diwydiannau creadigol i ddilyn cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn y maes.
Sefydlwyd Bwrsariaeth S4C ar y cyd gyda’r Coleg i annog myfyrwyr sydd wedi’u tangynrychioli yn y sector i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae’r fwrsariaeth ar gael i fyfyrwyr Du, Asiaidd neu o leiafrifoedd ethnig, myfyrwyr anabl a myfyrwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig.
Bydd hyd at ddeg o fwrsarïau gwerth £500 yr un yn cael eu dyfarnu i fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar un o’r cyrsiau cymwys* ym maes y Diwydiannau Creadigol mewn prifysgol yng Nghymru.
Dywedodd Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg:
“Rydym yn falch iawn o lansio’r fwrsariaeth hon ar y cyd â S4C. Pwrpas y fwrsariaeth ydy agor drysau i’r genhedlaeth nesaf o dalent Cymraeg ac annog myfyrwyr i gamu’n hyderus i'r diwydiannau creadigol.
“Drwy sefydlu’r fwrsariaeth, ryn ni’n gobeithio ysbrydoli myfyrwyr i astudio drwy’r Gymraeg, ac i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cefnogi.
“Mae’n hollbwysig bod gweithlu’r diwydiannau creadigol yn adlewyrchu Cymru gyfan, ac rydym yn ymwybodol bod gwaith i’w wneud i gyrraedd y nod hwnnw.
“Mae’r fwrsariaeth hon yn gam ymarferol i’r cyfeiriad cywir, gan helpu i ddenu, meithrin a chefnogi myfyrwyr ar hyd eu taith.”
Yn ogystal â’r cymorth ariannol, bydd S4C yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol gan gynnwys gwahoddiadau i ddigwyddiadau sector, lansiadau a gweithgareddau eraill drwy gydol y cyfnod astudio.
Dywedodd Sara Peacock, Pennaeth Pwrpas Cymdeithasol S4C:
"Mae S4C i bawb ac mae hi’n allweddol bod ein diwydiant yn agored i bawb o bob cefndir. Mae cynnwys S4C ar ei orau pan mae’n adlewyrchu Cymru gyfan.
“Drwy Fwrsariaeth S4C, rydym yn falch o gefnogi sêr y dyfodol ar y sgrîn, yn ogystal â’r talentau’r tu ôl iddi. Byddem yn argymell unrhyw un sydd yn gymwys am y fwrsariaeth i fynd amdani."
Mae'r ffenest ymgeisio ar agor tan 30 Ebrill 2026
*Mae’r meini prawf, y rhestr o gyrsiau cymwys, a’r ffurflen ymgeisio ar gael ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.