Skip to main content Skip to footer
22 Gorffennaf 2025

Lansio adnodd newydd ‘Cynhyrchu Cig’ ar faes y Sioe Frenhinol

ADD ALT HERE

Ar ddydd Mawrth 22 Gorffennaf yng Nghanolfan Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ar faes y Sioe Frenhinol, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio adnodd newydd ‘Cynhyrchu Cig’ i gefnogi dysgwyr mewn colegau addysg bellach a phrentisiaid sydd yn astudio neu sydd â diddordeb ym maes Amaeth.

Cafodd yr adnodd, sef gwefan ar gynhyrchu cig oen a chig eidion, ei gomisiynu mewn ymateb i’r galw gan staff a dysgwyr mewn colegau addysg bellach am adnodd newydd i ddysgwyr sy’n astudio cymwysterau Amaethyddiaeth lefel 2 a 3 a thu hwnt.

Meddai Lora Jên Pritchard, dysgwr Amaeth yng Ngholeg Glynllifon:

“Mae’r adnodd yn arbennig oherwydd mae’n cyfleu gwybodaeth mewn ffordd ddiddorol, gweledol a hwyliog.

“Trwy ddarllen, gwylio a gwrando ar gynhyrchwyr cig o wahanol gwmnïau yn rhannu eu profiadau a’u harbenigedd, mae modd dysgu llawer am y diwydiant.

“Mae dros 65 o wersi ar yr adnodd, felly mae digon i gadw eich diddordeb, a fy hoff rhan ydy’r gweithgareddau ar y diwedd sy’n herio.”

 

Mae'r adnodd wedi'i rannu yn 14 uned gyda 7 uned yn canolbwyntio ar gynhyrchu cig oen a 7 uned ar gynhyrchu cig eidion, ac yn cynnwys un o sêr y gyfres deledu 'Busnes Bwyd', Matthew Rees, Cigydd cwmni Albert Rees, Caerfyrddin. 

Amaeth ydy un o feysydd blaenoriaeth y Coleg Cymraeg, ac mae’r Coleg wedi buddsoddi’n helaeth yn y ddarpariaeth addysg bellach a phrentisiaethau sydd wedi arwain at greu 10 swydd yn y maes Astudiaethau ar Dir.

Bydd yr adnodd yn cael ei lansio mewn digwyddiad Brecinio Materion Gwledig Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yng Nghanolfan Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru am 9yb gan Meri Huws, Aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chadeirydd Bwrdd Strategol Ol-16 y Coleg. 

 

Meddai Meri Huws:

“Mae’r Coleg yn falch iawn i lansio adnodd Cynhyrchu Cig ar faes y Sioe Frenhinol eleni. 

“Mae’r adnodd dwyieithog yn wych ac yn ddefnyddiol i bawb beth bynnag eu sgiliau Cymraeg. Mae’r Coleg wedi bod yn cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ym maes Amaeth yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau ers sawl blwyddyn bellach, ac mae’n braf gweld y ddarpariaeth yn cynyddu a’r berthynas gyda’r colegau yn dyfnhau.”

 

Mae’r adnodd wedi ei awduro gan Sara Roberts, darlithydd Amaeth yng Ngholeg Sir Gar, ac wedi ei gynhyrchu gan gwmni Atebol.

Mae modd cael mynediad i wefan Cynhyrchu Cig drwy Porth Adnoddau’r Coleg.