Skip to main content Skip to footer
14 Gorffennaf 2025

Lansio Ysgoloriaeth Anne Brooke i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg

ADD ALT HERE

Ar ddydd Llun 14 Gorffennaf, yn adeilad JOMEC (Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant), Prifysgol Caerdydd, lansiodd y Coleg Cymraeg ysgoloriaeth newydd i gefnogi myfyrwyr israddedig sydd am astudio’r Gymraeg fel pwnc (iaith gyntaf neu ail iaith) mewn prifysgol yng Nghymru.

Mae’r ysgoloriaeth newydd er cof am y diweddar Anne Brooke, awdures o’r Unol Daleithiau a ddysgodd Gymraeg ac a ymgartrefodd yn y Rhondda. Aeth ati i gyhoeddi nifer o lyfrau Cymraeg i blant er mwyn cefnogi rhieni nad oedd yn siarad Cymraeg i ddarllen gyda’u plant.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth gan y Coleg ar ôl derbyn rhodd hael gan Peyton Robertson, nai Anne, a hedfanodd draw o America ar gyfer y lansiad. Dywedodd Peyton:

“Anne had a passion for learning the Welsh language and writing books for children.

“Due to her non-Welsh speaking background she wanted to give non-Welsh speaking parents the opportunity to follow their stories with their children so many of her books include a full English translation. This was truly her life's work and she spent many years in Wales to see through her vision.

It was her hope to return the money she earned for her work to Wales to help preserve the Welsh language. The establishment of the Anne Brooke scholarship fulfills her wish and I know she would be thrilled to see her efforts come to fruition in this way."

Mae llyfrau Anne Brooke yn cynnwys cyfresi poblogaidd, Plant y Goedwig, Mabli a Mabon, a Storïau'r Sosban Fawr.

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i deulu’r diweddar Anne Brooke, Peyton, Brooke ac Elizabeth Robertson, am y rhodd hael sydd wedi caniatáu  i ni sefydlu ysgoloriaeth i gefnogi myfyrwyr sydd am astudio’r Gymraeg fel pwnc - iaith gyntaf neu ail iaith.

“Fel Coleg rydym yn edmygu ac yn ddiolchgar i Anne am ei gwaith yn hyrwyddo’r Gymraeg ymhlith cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt, ac mae’n braf gweld y bydd ei hetifeddiaeth yn parhau trwy’r ysgoloriaeth yma.”

Mae’r ysgoloriaeth werth £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000) a bydd yn cael ei dyfarnu’n flynyddol.

Bydd ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 - 2027 yn cael eu dyfarnu o blith y ceisiadau am Brif Ysgoloriaeth y Coleg. Bydd angen  cwblhau'r ffurflen gais yn adran Prif Ysgoloriaeth ar wefan y Coleg