Ar ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf ym Mhabell Llais, Gŵyl Tafwyl, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd ac S4C yn cynnal sgwrs banel ar gydraddoldeb yn y cyfryngau Cymraeg.
Ar y panel fydd y dramodydd, Ciaran Fitzgerald, y gomediwraig, Melanie Owen, a’r newyddiadurwraig, Lena Mohammed yn trafod cydraddoldeb yn y cyfryngau fel rhai sydd yn rhan o gymunedau yng Nghymru sydd yn hanesyddol wedi eu tangynrychioli yn y cyfryngau.
Nod y digwyddiad ydy rhoi platfform i bobl o gefndiroedd lleiafrifol, yn cynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol ethnig, LHDTC+ a phobl sydd ag anableddau i rannu eu barn, profiadau a syniadau am gydraddoldeb mewn ffordd onest ac agored. Hefyd byddant yn trafod rôl bwysig addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wrth anelu at gydraddoldeb yn y cyfryngau.
Ymhlith y panelwyr fydd y dramodydd a’r awdur o Bort Talbot, Ciaran Fitzgerald. Mae Ciaran wedi torri tir newydd yn ddiweddar gyda’i gyfres gomedi, BWMP ar S4C am fod y gyfres gyntaf erioed yn y Gymraeg i gynnwys prif gymeriad sydd ag anabledd.
Meddai Ciaran, sydd hefyd yn ymgyrchydd dros addysg cyfrwng Cymraeg hygyrch i bobl ag anableddau:
“Mae angen newid y ffordd mae pobl yn y diwydiannau creadigol yn edrych ar bobl ag anableddau. Mae angen mwy nag un tymor y flwyddyn, mae angen creu cynnwys gynhwysol parhaol.
“Er mwyn newid y naratif, mae angen mwy o gynrychiolaeth. Ond i gael hynny, mae addysg yn chwarae rhan bwysig felly mae’n hanfodol bod pobl ifanc sydd ag anableddau yn cael yr un cyfleoedd Cymraeg a phob plentyn arall yn yr ysgol, yn y coleg, neu yn y brifysgol er mwyn creu gweithlu dwyieithog cynhwysol yn y sector diwydiannau creadigol.
“Bydd y drafodaeth yma yn chwa o awyr iach er mwyn trafod yr heriau a’n profiadau yn agored o flaen cynulleidfa o arweinwyr o’r byd addysg a’r cyfryngau a fydd yn gam positif gobeithio i barhau’r newid.”
Bydd y sgwrs banel yn cael ei gadeirio gan Gydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Gwrth-hiliaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Emily Pemberton. Meddai Emily:
“Mae cynrychiolaeth yn bendant wedi gwella i gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y cyfryngau a sefydliadau corfforaethol Cymraeg ers protestiadau ‘Black Lives Matter’ yn 2020, ond dim ond dechrau’r siwrnau yw hynny.
“Mae gweld modelau rôl sy’n debyg i chi mewn rolau arwain mewn sefydliadau mawr neu ar y teledu mor bwysig i ddylanwadau ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesa ac i greu Cymru decach i bawb. Mae’n bwysicach fyth mai ni ein hunain sy’n gyrru’n naratif. Felly mae sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bawb, beth bynnag eu cefndir, mor bwysig.”
Hefyd ar y panel bydd y gomediwraig, Melanie Owen, a Lena Mohammed sy’n fyfyrwraig newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar ddechrau ei gyrfa.
Bydd y sgwrs banel hefyd yn gyfle i drafod y gwaith mae’r tri chorff - y Coleg Cymraeg, Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, ac S4C yn gwneud yn y maes Cydraddoldeb a’u cynlluniau i’r dyfodol.
Mae croeso cynnes i bawb fod yn rhan o’r gynulleidfa ar 13 Gorffennaf am 5yp ym Mhabell Llais, Gŵyl Tafwyl.