Ar ôl dysgu Cymraeg am ddwy flynedd, roedd Hammad Rind yn rhugl ac mi lwyddodd i ennill Ysgoloriaeth i wneud doethuriaeth yn y Gymraeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yn ôl Hammad, a gafodd ei eni ym Mhakistan ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd,
“Dechreuais i fy siwrnai o ddysgu Cymraeg yn 2023. Roedd nifer o resymau gen i i ddysgu'r iaith. Mae fy mhlant yn mynd i'r ysgol Gymraeg, ac mae sawl ffrind gen i sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg ac roeddwn i'n awyddus i ddarllen ei gwaith.”
Fel awdur uchel ei barch ei hun, ac amlieithydd, mae Hammad wedi mynd ati i gyhoeddi’r nofel, Four Dervishes (Llyfrau Seren 2021), a gweithiau yn yr iaith Gymraeg, Perseg, Urdu ac Arabeg.
Roedd dysgu am lenyddiaeth Cymraeg wedi ei ysbrydoli i astudio’r iaith yn ddyfnach ac i ymgeisio am Ysgoloriaeth Ymchwil ‘Cydraddoldeb ac Amrywiaeth’ y Coleg. Mae’r ysgoloriaeth yn rhoi cyfle i pobl o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli mewn addysg uwch ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg gyflawni doethuriaeth dan nawdd y Coleg.
Meddai Hammad,
“Dwi wedi darganfod nifer o awduron a beirdd Cymraeg gwych na fyddwn i wedi gwybod amdanyn nhw oni bai fy mod i wedi dysgu'r iaith. Dwi'n hoffi sut mae diwylliant Cymru wedi'i gysylltu â'r iaith.”
Mae Hammad wedi bod yn astudio am ei ddoethuriaeth yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor ers mis Hydref 2025, a’i bwnc ymchwil ydy cymharu traddodiadau marwnad yn y Gymraeg, Perseg, ac Wrdw. Ychwanegodd:
“Wrth ddarllen cerdd arbennig gan Gerallt Lloyd Owen, Cilmeri, sylweddolais i sut mae tebygrwydd trawiadol rhwng traddodiad marwnad Cymraeg ac ieithoedd Perseg a Wrdw.
“Dwi'n hapus iawn i dderbyn yr ysgoloriaeth yma gan y Coleg Cymraeg ac yn gyffrous am ddatblygu fy ymchwil a'm traethawd ymchwil yn y blynyddoedd nesaf.”
Yn ogystal â dechrau ar ei daith PhD eleni, mae Hammad wedi ymuno a Chynllun Sbarduno’r Coleg fel mentor i gefnogi siaradwyr Cymraeg rhwng 16-19 oed Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg.
Meddai Hammad,
“Dwi’n gobeithio y gallaf gyfrannu a gwneud gwahaniaeth yn y maes llenyddol Cymraeg trwy fy ymchwil, ac rwy’n edrych ymlaen at roi cefnogaeth ac anogaeth i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol fel mentor ar y Cynllun Sbarduno.”
Am wybodaeth bellach ar y Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil 'Cydraddoldeb ac Amrywiaeth' a Chynllun Sbarduno ewch i wefan y Coleg; ac ewch i sianel You Tube y Coleg i wylio fideo i glywed sut mae myfyrwyr wedi elwa o’r ddau gynllun.