Skip to main content Skip to footer
18 Mehefin 2026

Gwobrau’r Coleg Cymraeg yn dathlu rhagoriaeth

ADD ALT HERE

Dr Simon Brooks yn ennill Gwobr Cyfraniad Arbennig

Ar nos Fercher 17 Mehefin mewn dathliad arbennig yn Cabaret, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, cyhoeddwyd 10 o enillwyr gwobrau ar gyfer dysgwyr, prentisiaid ac addysgwyr a wnaeth gyfraniad sylweddol at addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn ddiwethaf.

Uchafbwynt y noson oedd cyflwyno Gwobr Cyfraniad Arbennig i’r ysgolhaig, Dr Simon Brooks, gan gydnabod ei gyfraniad helaeth at ymchwil academaidd Cymraeg ym meysydd hanes, amlddiwylliannedd, theori wleidyddol a pholisi cyhoeddus. Meddai Simon:

“Rwyf wedi cyhoeddi yn y Gymraeg yn academaidd ar hyd fy oes, gan arbenigo mewn astudiaethau o’n hanes diwylliannol, ac mae cael y gydnabyddiaeth hon yn fendigedig.

“Mae’n fraint hefyd fod y gydnabyddiaeth yn dod gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio ym maes polisi cyhoeddus i ddatblygu syniadau i gefnogi’r Gymraeg, a grant gan y Coleg a’m rhoes ar ben y ffordd yn hynny o beth.”

Wrth gyflwyno’r wobr i Simon, meddai Dr Aled Eirug, Cadeirydd y Coleg,

“Mae Simon wedi sicrhau bod ei waith academaidd, ei gyhoeddiadau, ei newyddiaduriaeth a’i ymchwil yn berthnasol i gyflwr y genedl a’i phobl. Mae’n pontio’n fedrus rhwng y byd academaidd a’r maes polisi ymarferol, gan gyfoethogi’n sylweddol safon a dyfnder y drafodaeth am ddyfodol yr iaith a bregusrwydd ein cymunedau Cymraeg.

Diolch iddo, mae’n gwbl haeddiannol o dderbyn gwobr y Coleg am ei gyfraniad arbennig ac unigryw."

Cefin Campbell AC, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn cyflwyno gwobr i'r athrawes, Lleucu Wyn Pughe

Uchafbwyntiau eraill y noson oedd cyhoeddi enillwyr gwobrau newydd  eleni ar gyfer athro chweched dosbarth a darlithydd yn y maes Iechyd a Gofal.

Dyfarnwyd Gwobr Annog Disgyblion i'r athrawes Gymraeg, Lleucu Wyn Pughe, o Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth, am ei gwaith yn dylanwadu ac ysbrydoli disgyblion i barhau i astudio’r Gymraeg fel pwnc ar gyfer lefel A a thu hwnt. Meddai Lleucu:

“Mae’n fraint derbyn y wobr yma er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg fel pwnc addysgol yn ein hysgolion, yn y colegau a’r prifysgolion. Mae drysau di-ri yn agor wrth astudio’r Gymraeg a gall y pwnc arwain dysgwyr at ystod eang o yrfa. 

“Rwy’n teimlo’n freintiedig, fel Pennaeth Adran y Gymraeg mewn ysgol fach wledig yng nghanolbarth Cymru, i gael fy nghydnabod fel athrawes sy’n helpu i feithrin balchder yn y Gymraeg ymysg ein dysgwyr.”

Cyflwynwyd Gwobr Iechyd a Gofal i Dr Philip Davies, Tiwtor Sgiliau Iaith Uwch a Rheolwr Prosiect ym Mhrifysgol Bangor gan y darlledwraig ac ymgyrchydd iechyd, Beti George. Enillodd Philip y wobr am arwain y prosiect arloesol, Mwy na Geiriau: Y Gymraeg fel Sgil Glinigol.

Mae’r prosiect yn seiliedig ar egwyddorion cynllun Llywodraeth Cymru o’r un enw, ac wedi ei ddylunio i hyrwyddo’r Gymraeg fel sgil glinigol hanfodol. Ei nod yw sicrhau bod myfyrwyr — beth bynnag eu hyder yn yr iaith — yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod eu cwrs Meddygaeth. Meddai Phil:

“Dwi’n falch o’r wobr oherwydd pwysigrwydd y Gymraeg yn y sector iechyd a’n bod ni wedi creu rhywbeth sydd am wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad. 

“Mae’n dangos fod dysgu Cymraeg a magu hyder pobl ifanc i siarad yr iaith yn ffitio’n daclus o fewn rhaglenni academaidd dwys, fel Meddygaeth.

“Y gobaith yn y dyfodol ydy ymestyn y cwrs, y rhaglen a’r cysyniad i gynlluniau academaidd eraill yn y sector iechyd.”

Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg yn cyflwyno Gwobr Talent Newydd i Hanna Griffiths

Cafodd pedwar dysgwr eu gwobrwyo yn ystod y seremoni, gan gynnwys Hanna Griffiths, prentis Iechyd a Gofal yng Ngholeg Sir Benfro sy’n gweithio yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Enillodd Hanna Wobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce. Meddai Hanna:

“Mae’r wobr hon yn bwysig i mi am ei bod yn dangos fy mod yn gwneud gwaith o safon ac yn cael fy ngwerthfawrogi. Gan fy mod yn gweithio ar ward eiddilwch, mae’n bwysig i’r cleifion fy mod yn defnyddio fy Nghymraeg, a byddaf yn parhau i wneud hynny trwy gydol fy mhrentisiaeth ac fel nyrs yn y dyfodol.”

Prif gyflwynydd y noson oedd y cyflwynydd S4C a’r cerddor adnabyddus, Lloyd Lewis, ac ymhlith cyflwynwyr eraill y noson roedd Beti George, Sioned Dafydd a Tudur Phillips.

 

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg:

“Mae pob enillydd heno yn haeddu canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith a’u cyfraniad at addysg Gymraeg a dwyieithog ar draws y sectorau addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau ac ysgolion.

“Maent yn codi proffil a statws y Gymraeg yn eu sefydliadau ac yn arddel y safonau uchaf. Mae’r gwaith a gyflawnwyd dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf wedi bod yn rhagorol, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio i gynyddu cyfleoedd Cymraeg i ddysgwyr ym mhob maes a sector. Hoffwn estyn fy niolch a llongyfarchiadau cynhesaf i Dr Simon Brooks am ei gyfraniad arbennig, ei ymroddiad diwyd, a’i gefnogaeth barhaus i waith y Coleg. 

 

Mae modd gwylio’r digwyddiad yn ôl ar sianel You Tube y Coleg.

Rhestr lawn o'r enillwyr a'u cyflwynwyr:

Gwobrau Addysgwyr:

Gwobr Annog Disgyblion - Lleucu Wyn Pughe, Ysgol Bro Hyddgen.

Gwobr Dathlu’r Darlithydd – Awel Wynne-Williams , Prifysgol Wrecsam. Cyflwynwyd gan Elen Mai Nefydd.

Gwobr Addysgwr Arloesol – Gwyn Arfon Williams, Grwp Llandrillo Menai. Cyflwynwyd gan Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygu Masnachol Grwp Llandrillo Menai.

Gwobr Cyfoethogi Profiad y Dysgwr/ Prentis – Kath Morgan, Coleg y Cymoedd. Cyflwynwyd gan y cyflwynydd chwaraeon, Sioned Dafydd.

Gwobr Iechyd a Gofal - Dr Phil Davies, Prifysgol Bangor. Cyflwynwyd gan y darlledwraig ac ymgyrch iechyd, Beti George

Gwobr Cyfraniad Arbennig - Dr Simon Brooks. Cyflwynwyd gan Cadeirydd y Coleg Cymraeg, Dr Aled Eirug

 

Gwobrau myfyrwyr/prentisiaid:

Gwobr Merêd - Emily Evans, Prifysgol Abertawe. Cyflwynwyd gan y cyflwynydd a’r cynhyrchydd radio, ac enillydd gyntaf erioed Gwobr Merêd, Trystan ap Owen.

Gwobr Llais y Gymraeg - Dice Suter, Grwp Colegau NPTC. Cyflwynwyd gan yr animeiddiwr a darlithydd Animeiddio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Owen Stickler

Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce – Hanna Griffiths, Coleg Sir Benfro/ Ysbyty Glangwili. Cyflwynydd gan Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones.

Gwobr Ysbrydoli Eraill – Cai Williams, Ysgol Dyffryn Conwy. Cyflwynwyd gan y cyflwynydd teledu a chlocsiwr, Tudur Phillips.