Yr wythnos hon cafodd podlediad newydd ei rhyddhau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr y gymdeithas ddynol, o ‘Beth yw ystyr bywyd?’, ‘Pam fod tlodi yn y byd?’ i ‘A Oes Heddwch?’
Cyflwynir y gyfres o chwe podlediad gan Dr Huw Williams, Darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae wedi ei greu ar gyfer cynulleidfa eang, o fyfyrwyr sy’n astudio’r Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol yn y chweched ddosbarth neu yn y brifysgol, i gynulleidfa lleyg.
Meddai Dr Huw Williams:
“Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd – fel mae’r teitl yn ei awgrymu – yn mynd i’r afael gyda rhai o gwestiynau mawr bywyd.
“Mae’n cychwyn gyda’r rhagdybiaeth bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys o bryd i’w gilydd ac mae peth iach a naturiol yw trafod a myfyrio y materion yma.
“Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus gallu cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth gyda chyfeillion amrywiol ar y materion yma, a hyderaf ein bod ni wedi creu cyfres fer sydd yn mynd i ysgogi ymateb ymhlith myfyrwyr ysgol a phrifysgol, a’r cyhoedd fel ei gilydd.”
Gyda chyflwynydd y podlediad yn athronydd, mae’r trafodaethau’n cael eu llywio a’u datblygu yng nghwmni amryw o arbenigwyr, gan gynnwys rhai o academyddion Cymraeg blaenllaw dan nawdd y Coleg Cymraeg. Mae gwesteion y gyfres yn cynnwys Dr Mirain Rhys, Dr Gareth Jones-Evans a Dr Sam Parry.
Ychwanegodd Huw:
“O safbwynt gwrandawyr iau, amcan y prosiect ydy creu adnodd bachog a hygyrch i fyfyrwyr, athrawon, a darlithwyr er mwyn ysgogi diddordeb ymysg y genhedlaeth ifanc, a’u cyflwyno i drafodaethau sydd yn ddefnyddiol i’w hastudiaethau, ac sydd yn eu hysbrydoli i ymddiddori ymhellach mewn meysydd perthnasol.
“Yn fwy cyffredinol, mae’n bwysig yn fy marn i creu platfform sy’n rhoi’r cyfle i academyddion drafod ystod o bynciau dwys a ddiddorol gan ymestyn yr arlwy sydd ar gael i wrandawyr yn y Gymraeg, a hybu bywyd deallusol Cymraeg.”
Mae'r podlediad ar gael i'w wylio ar Borth Adnoddau a sianel You Tube y Coleg Cymraeg ac i'w wrando arni ar Y Pod a Spotify. Mae wedi ei ariannu gan y Coleg Cymraeg fel rhan o Gronfa Grantiau Bach y Coleg.