Skip to main content Skip to footer
4 Awst 2025

Pwy ddylai gael chwarae i Gymru ac ydy chwaraeon yn deg?

ADD ALT HERE

Mewn sesiwn ar faes yr Eisteddfod, bydd panel o athronwyr, academyddion a chyn-chwaraewyr yn trafod pynciau llosg megis cenedlaetholdeb, atal dopio a diogelwch chwaraewyr ar y maes chwarae. 

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Yr Athro Carwyn Jones, darlithydd Moeseg Chwaraeon ym Mhrifysgol Met Caerdydd, sydd wedi ennill gwobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddiweddar am ei bodlediad yn trafod moeseg chwaraeon yn Gymraeg. 

Bydd y drafodaeth yn yr Eisteddfod yn dilyn rhai o’r themâu gafodd eu trafod ar y podlediad ac yn amrywio o pwy ddylai gael cynrychioli eu gwlad, effeithlonrwydd ymdrechion i atal dopio a mesurau i leihau risg anafiadau i’r pen mewn chwaraeon.   

Yn ymuno gyda Carwyn ar y panel yn yr Eisteddfod bydd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Dyddgu Hywel, yr hanesydd chwaraeon, Beth Jones a Dr Meilyr Jones, sydd wedi gwneud doethuriaeth dan nawdd y Coleg Cymraeg yn edrych ar y defnydd o’r Gymraeg mewn clybiau pêl-droed a chyrff llywodraethu chwaraeon. 

Yn cadeirio, bydd Aneirin Karadog, sydd â diddordeb penodol yn un o’r pynciau fydd yn cael eu trafod, sef pwy ddylai gael chwarae dros eu gwlad. 

  

Yn ôl Carwyn Jones, “Dw i’n adnabod Aneirin yn dda, ac wedi cael aml i sgwrs gydag ef am genedlaetholdeb ar y cae chwarae. Roedd yn ddewis naturiol i gadeirio’r drafodaeth. Bydd ein trafodaeth yn edrych ar elfennau megis pwy ddylai gael chwarae dros eu gwlad a pha mor llym ydy’r rheolau. 

 

“Byddwn hefyd yn trafod pynciau megis os yw’n rhesymol i chwaraewyr sicrhau na fydd unrhyw sylweddau gwaharddedig yn cyrraedd eu cyrff heb fwriad ac a yw’n realistig dileu risg cyfergyd yn gyfan gwbl mewn chwaraeon cyswllt fel pêl-droed a rygbi?” 

  

Mae’r hanesydd chwaraeon Beth Jones, sydd newydd ddechrau ar ei doethuriaeth dan nawdd y Coleg Cymraeg yn edrych ar hanes pêl-droed yng ngogledd Cymru, hefyd ar y panel ac yn edrych ymlaen i drafod safle merched mewn chwaraeon. 

Dywedodd Beth, “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y drafodaeth ac at yr amrywiol bynciau fydd yn cael eu trafod. Gallem gael trafodaeth ddifyr iawn am sut mae merched yn cael eu hasesu ar ôl cael anafiadau i’r pen – a sut mae’r asesiadau yma wedi eu creu ar gyfer asesu dynion, sydd ddim bob tro yn addas i ferched. 

  

“Mae na astudiaethau difyr eraill wedi eu gwneud yn ddiweddar yn edrych ar y cyswllt posibl rhwng cylch mislif merched ac anafiadau, ac a oes angen i ferched ystyried pa adeg o’r mis ydy hi ac ydy hynny’n mynd i effeithio ar eu gêm neu eu tebygolrwydd o anafu?” 

    

Yn ôl Emily Pemberton, Swyddog Cydraddoldeb y Coleg Cymraeg, “Mae hon yn mynd i fod yn drafodaeth ddifyr fydd yn trin a thrafod rhai o’r themâu moesegol sydd ar y podlediad. Mae’r themau ar y podlediad yn cynnwys hiliaeth a stereoteipiau hiliol mewn chwaraeon, materion yn ymwneud â hawliau athletwyr trawsryweddol, chwaraeon-galchu, tegwch, modelau rôl, a chenedlaetholdeb. 

“Maent yn bynciau pwysig a chyfredol, ac mae’n dda fod y sesiwn hon yn cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod er mwyn gallu eu trafod trwy gyfrwng y Gymraeg.”