Flwyddyn yn ôl, enillodd Dr Hannah Sams Wobr Gwerddon gyda’i herthygl ‘Dod i oed: llenyddiaeth Oedolion Newydd yn Gymraeg’
Dyfernir Gwobr Gwerddon ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n cael ei rhoi bob yn ail flwyddyn i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cawsom sgwrs gyda Hannah i ddysgu mwy am ei phrofiad o lunio’r erthygl ac o ennill y wobr.
Pam ddewisaist di gyhoeddi yn Gwerddon?
Fe wnes i ddewis cyhoeddi yn Gwerddon gan fy mod i’n awyddus i gyhoeddi mewn cyhoeddiad mynediad agored safonol yn y Gymraeg.
Sut brofiad oedd cyhoeddi erthygl yn Gwerddon?
Roedd y profiad yn un hwylus a phositif o’r cychwyn cyntaf. Roedd adborth yr yn arfarnwyr a’r golygydd yn adeiladol ac mae’r erthygl yn gryfach o lawer o weithredu ar yr adborth hwnnw.
Beth wnes di fwynhau fwyaf am lunio’r erthygl a’r broses gyhoeddi?
Darllen sylwadau defnyddiol yr arfarnwyr a’r golygydd yn fanwl cyn ei chyhoeddi a manteisio ar eu mewnbwn a’u harbenigedd.
Pam ddewisaist di ymchwilio i’r pwnc hwn?
Roeddwn i’n sylwi bod rhywbeth cyffrous yn digwydd o fewn llenyddiaeth Gymraeg a bod carfan o leisiau newydd sef lleisiau Oedolion Newydd yn ehangu gorwelion ein llenyddiaeth. Roedd y nofelau dan sylw yn apelio ataf ar lefel bersonol ac fel ymchwilydd, felly dyma benderfynu mynd ati i lunio’r erthygl.
Oedd rheswm penodol dros ddewis tair nofel gan fenywod fel astudiaethau achos? Ydy menywod yn fwy tebygol o ysgrifennu nofelau i Oedolion Newydd, a thrafod pynciau a ystyrir yn dabŵ megis rhyw a rhywioldeb, yn Gymraeg?
Mae’n wir bod tueddiad i osod gwaith menywod mewn categorïau penodol yn fwy na gwaith dynion, nid dyna fy nod yn yr erthygl hon. Rwy’n teimlo mai menywod sydd wedi arloesi ym maes llenyddiaeth Oedolion Newydd yn Gymraeg. Yn hynny o beth, mae’r dair nofel dan sylw yn paratoi’r ffordd i awduron eraill. Heb os, mae lle i ehangu’r gwaith hwn ac ystyried mathau eraill o lenyddiaeth megis cerddi gan feirdd fel Tegwen Bruce Deans, Llŷr Gwyn Lewis, a dramâu gan ddramodwyr megis Mared Llywelyn ac Elgan Rhys yn rhan o’r drafodaeth hefyd.
Wyt ti’n credu bod heriau penodol yn wynebu menywod sydd eisiau cyhoeddi erthyglau academaidd? Sut gellid mynd i'r afael â’r heriau hyn?
Mae ymchwil yn dangos bod menywod yn y byd academaidd yn aml yn ysgwyddo mwy o ddyletswyddau gweinyddol a bugeiliol sy’n aml yn gwneud gwarchod yr ychydig amser sydd i wneud ymchwil yn anodd iawn. Mae’r dyletswyddau hynny ar ben llwyth dysgu trwm a dyletswyddau y tu hwnt i’r gwaith. At hynny, byddwn i’n tybio bod ansicrwydd yn sgil sefyllfa ariannol nifer o brifysgolion Cymru ac amodau gwaith heriol dros ben oll yn cyfrannu at yr heriau hyn.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae angen cefnogaeth ar sawl lefel; ar lefel sefydliadol trwy reoli baich gwaith a gwarchod amser ymchwil, mentora o fewn a thu hwnt y sefydliad o fewn rhwydweithiau ymchwil fel rhwydwaith ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac arfarnwyr a golygyddion, fel y rhai a gefais wrth gyhoeddi gyda Gwerddon sy’n cofio mai pobl ac nid peiriannau sy’n mynd i fod yn darllen eu hadborth a’u sylwadau.
Beth mae’r wobr yn ei olygu i ti?
Mae cael cydnabyddiaeth am waith academaidd yn ddigon prin. Felly roedd gwybod bod yr erthygl wedi taro deuddeg gyda phanel Gwerddon yn hwb i mi.
Beth fyddai dy air o gyngor i ymchwilwyr sy’n ystyried cyhoeddi erthygl?
Byddwn i’n eu hannog i fentro a thrwy hynny cael y cyfle i gyhoeddi mewn cyfnodolyn safonol a chyfrannu at ysgolheictod trwy gyfrwng y Gymraeg.
Darllen yr erthygl