Cyhoeddir heddiw, dydd Mawrth 20 Ionawr, mai Tarian Jones a Gruffudd Howell o Brifysgol Caerdydd, a Bailey Powell-McCloy o Brifysgol Aberystwyth yw’r tri myfyriwr fydd yn derbyn Bwrsariaeth Gareth Pierce eleni.
Mae’r bwrsariaethau werth £3,000 yr un ac yn cael eu cynnig i hyd at dri myfyriwr israddedig sy’n astudio o leiaf draean o’u cwrs gradd Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Bailey Powell-McCloy sydd o Flaenafon, Torfaen, yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gymraeg Gwynllyw. Fel un sydd yn dod o deulu di-Gymraeg ac wedi dysgu’r iaith yn yr ysgol, mae cael y cyfle i barhau gyda’i addysg Gymraeg yn y brifysgol yn bwysig iawn iddo. Meddai:
“Nid yw mam yn siarad Cymraeg, ond roedd hi’n awyddus fy mod i a fy mrawd yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg er mwyn cael cyfleoedd newydd.
“Dwi’n falch fy mod i wedi gallu parhau i ddefnyddio fy Nghymraeg yn y brifysgol drwy fy astudiaethau, ac yn gymdeithasol hefyd.
“Mae’r Gymraeg a Mathemateg yn agor gymaint o ddrysau, a bydd yr iaith yn sicr o fantais pan fyddaf yn ceisio am swyddi yn y dyfodol.”
Mae Tarian Jones o Rydaman wrth ei bodd yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’r iaith wedi chwarae rhan bwysig yn ei datblygiad personol ar y cwrs. Meddai:
“Drwy gyfathrebu yn fy mamiaith gyda fy nhiwtoriaid, dwi wedi magu perthynas agos gyda nhw sydd wedi bod o fudd mawr wrth i mi ddod i’r arfer gyda’r gwaith.
“Mae cymuned fywiog o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a dwi’n falch iawn i fod i’n rhan o’r gymuned hynny.”
Mae Gruffudd Howell, cyn-ddisgybl o Ysgol Bro Myrddin, yn gobeithio gweithio fel athro Mathemateg yn y dyfodol. Meddai:
“Datblygodd fy niddordeb mewn Mathemateg yn yr ysgol. Rwy’n hoffi’r sicrwydd sy’n dod gyda mathemateg, a’r ffordd mae pethau’n ffitio’n rhesymegol gyda’i gilydd.
"Hoffwn rannu fy mrwdfrydedd am fathemateg a fy mamiaith trwy fod yn athro Mathemateg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y fwrsariaeth, a byddaf yn defnyddio’r arian i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymdeithas Gymraeg y Brifysgol, ac i fuddsoddi mewn adnoddau cyfrwng Cymraeg a fydd yn cynorthwyo fy astudiaethau.”
Cafodd y fwrsariaeth ei sefydlu yn 2022 er cof am Gareth Pierce, a oedd yn Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chyn hynny yn Brif Weithredwr Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), cyn iddo farw’n sydyn yn 2021.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg:
“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Bailey, Gruffudd a Tarian ar ennill Bwrsariaeth Gareth Pierce eleni.
“Roedd Gareth Pierce yn gyfaill, cydweithiwr, a ffigwr dylanwadol a wnaeth gyfraniad allweddol i’r Coleg a’r maes addysg yng Nghymru yn ehangach. Mae’n fraint felly i gefnogi’r fwrsariaeth yma ar y cyd gyda CBAC.
“Gobeithio bydd y fwrsariaeth yn cefnogi’r myfyrwyr i ffynnu ar eu cyrsiau, a dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.”
Meddai Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:
"Mae'r ffaith bod poblogrwydd Bwrsari Gareth Pierce yn dal i gynyddu yn dystiolaeth gref o angerdd oesol Gareth dros fathemateg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Ar ran CBAC, mae'n bleser mawr gennyf longyfarch Bailey, Gruffudd a Tarian ar ennill y bwrsari nodedig hwn. Dymunwn bob llwyddiant iddynt â'r gwaith astudio sydd i ddod. Gobeithio y bydd y bwrsari hwn yn fodd iddynt ffynnu ac i gyflawni i'w potensial yn llawn wrth ddilyn eu cyrsiau."
Am fwy o wybodaeth am Fwrsariaeth Gareth Pierce, ac i wirio pa gyrsiau sy’n gymwys, ewch i wefan y Coleg Cymraeg.