Ar ddydd Mercher 22 Hydref, bydd fferyllwyr, myfyrwyr ac addysgwyr yn y maes yn dod ynghyd ar gyfer sefydlu Rhwydwaith Fferylliaeth Cymraeg cyntaf o’i fath.
Mae lansiad y rhwydwaith wedi ei gyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac wedi ei drefnu gan brifysgolion Abertawe, Bangor a Chaerdydd i ysgogi defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, yn ogystal â chefnogi a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr yn y prifysgolion.
Meddai’r Athro Delyth James, arweinydd y Rhwydwaith sy’n addysgu yn adran Fferylliaeth Prifysgol Abertawe,
“Ynghlwm â strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru i gynyddu darpariaeth iechyd yn y Gymraeg, mae angen mwy o Fferyllwyr sydd yn hyderus yn cyfathrebu gyda chleifion yn y Gymraeg yn y gweithle.
“Rydym eisoes wedi dechrau casglu rhestr o Fferyllwyr sydd yn siarad Cymraeg sydd yn barod yn estyn i dros 200 o unigolion ar draws y saith ardal Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
“Felly, bwriadwn ddatblygu rhwydwaith o Fferyllwyr sydd yn siarad Cymraeg ar draws Cymru er mwyn adeiladu sylfaen strategol i ddiogelu ein gallu i gynnal darpariaeth iaith Gymraeg ar draws addysg is-raddedig Fferyllwyr sydd yn astudio yng Nghymru.”
Tan 2021, dim ond un Ysgol Fferylliaeth (Prifysgol Caerdydd) oedd yng Nghymru a’r Coleg Cymraeg yn cefnogi’r ddarpariaeth honno. Erbyn heddiw mae prifysgolion Abertawe a Bangor hefyd yn cynnig gradd israddedig Fferylliaeth i fyfyrwyr.
Mae’r Coleg hefyd yn cefnogi’r maes Fferylliaeth drwy ei gynllun Gweithwyr Iechyd Yfory sy’n cefnogi darpar fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg i ymgeisio’n llwyddiannus ar gyrsiau Fferylliaeth.
Meddai Dr Gwenllian Owen, Uwch Reolwr Addysg Uwch y Coleg,
“Mae iechyd a gofal yn un o feysydd blaenoriaeth strategol i’r Coleg, gan adlewyrchu’r galw cynyddol am weithlu sy’n gallu gweithio’n effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg.
“Mae’r Coleg yn ymrwymedig i gynllunio’n strategol ac i gydweithio’n agos gyda phartneriaid ar draws y sector addysg a’r gweithlu, er mwyn sicrhau bod llwybrau Cymraeg yn cael eu datblygu’n gynaliadwy ac yn effeithiol.
“Fel sefydliad rydym yn falch o gyfrannu at ddatblygiad y rhwydwaith hwn ac yn gweld y gwaith hwn fel rhan allweddol o’n cenhadaeth i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ar draws sectorau blaenoriaeth.”
Bydd Fferyllwyr, myfyrwyr a darlithwyr ar draws Cymru yn cael eu gwahodd i lansiad Rhwydwaith Fferyllwyr Cymraeg yng Ngwesty Morgans yn Abertawe o 17:30 – 20:00 ar 22 Hydref 2025.
Mae’r digwyddiad hybrid wedi ei drefnu ar y cyd rhwng prifysgolion Abertawe, Bangor a Chaerdydd, ac fe’i ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda chefnogaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (Cymru).