Skip to main content Skip to footer
13 Chwefror 2026

Y Coleg Cymraeg yn penodi Llysgenhadon Prentisiaethau i hyrwyddo dwyieithrwydd wrth hyfforddi

ADD ALT HERE

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi enwau 18 o lysgenhadon prentisiaethau newydd. 

Mae’r llysgenhadon wedi eu penodi ar draws Cymru a’u rôl dros y flwyddyn nesaf ydy hyrwyddo pwysigrwydd dwyieithrwydd wrth hyfforddi ac yn y gweithle ac i annog eraill i ddilyn prentisiaeth yn ddwyieithog.

Un o’r llysgenhadon sy’n falch iawn o ddilyn ei phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ydy Teleri Evans, sy’n 18 oed. Mae Teleri yn dilyn prentisiaeth Cymorth Gofal Iechyd Clinigol gyda Choleg Sir Benfro yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Meddai Teleri,

“Roedd dilyn prentisiaeth yn llwybr a oedd yn apelio’n fawr i mi oherwydd roedd yn fy ngalluogi i fagu sgiliau yn y byd gwaith, astudio, hyfforddi, ac ennill cyflog ar yr un pryd.”

Cychwynnodd Teleri ar ei phrentisiaeth yn 2024 ac mae’n falch iawn o’i phenderfyniad i ddilyn ei phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Ychwanegodd Teleri,

“Dwi wedi gweld gyda llygaid fy hun pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg yn y sector iechyd a gofal, yn enwedig yn yr ardal yma o Gymru.

“Dwi’n dechrau bob sgwrs gyda ‘Shwmae’, a dwi’n gallu gweld wrth eu hymateb gymaint mae hynny’n ei olygu i'r cleifion.

“Mae cyfathrebu yn rhan allweddol o fy ngwaith, ac mae dilyn prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg wedi rhoi’r sgiliau i mi gyfathrebu gyda chleifion a chydweithwyr yn y ffordd fwyaf effeithiol.”

Manon Parker

Mae Manon Parker o Ddyffryn Nantlle yn gweithio fel prentis Creu a Chynhyrchu Cyfryngau gyda BBC Radio Cymru ym Mangor. Fel cerddor ifanc ei hun, mae’n gwerthfawrogi’r cyfle i barhau i astudio a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn awyrgylch greadigol.

Meddai Manon,

“Dwi wrth fy modd â cherddoriaeth a’r Gymraeg, felly dwi’n teimlo fy mod wedi cael cyfle euraidd wrth ddilyn prentisiaeth gyda chriw BBC Radio Cymru er mwyn dysgu mwy am y diwydiant.

“Mae’n fraint cael y cyfle i weithio fel rhan o dîm brwdfrydig BBC Radio Cymru a chael y cyfle i siarad gydag artistiaid sydd wedi bod mor ysbrydoledig.

“Fel llysgennad y Coleg, byddwn i’n annog eraill yn sicr i ddilyn prentisiaeth oherwydd rydych yn elwa wrth gael profiadau go-iawn yn y gweithle, ac yn gallu gwerthfawrogi pwysigrwydd y Gymraeg yn y byd gwaith.”

 

Bydd gwaith y llysgenhadon yn cynnwys rhannu negeseuon am fanteision defnyddio’r Gymraeg wrth hyfforddi ac yn y gweithle, yn ogystal â chreu cynnwys amrywiol ar y cyfryngau cymdeithasol i ddylanwadu ar eu cyfoedion i ddilyn prentisiaeth.

 

Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Marchnata'r Coleg:

“Cafodd Cynllun Llysgenhadon Prentisiaethau’r Coleg ei sefydlu yn 2020, ac erbyn hyn mae wedi tyfu ac wedi dod yn boblogaidd iawn ar draws Cymru.

“Mae’r prentisiaid yn magu llawer o sgiliau a phrofiadau newydd wrth fod yn llysgennad ac mae eu gwaith yn dylanwadu ar eraill i ddeall manteision y Gymraeg yn y byd gwaith yn werthfawr tu hwnt.  

"Ryn ni’n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r criw newydd eleni."

 

Dilynwch gyfrifon cymdeithasol y Coleg Cymraeg ar Instagram, Tik Tok, Facebook, Linked In a Bluesky i ddarllen am y llysgenhadon prentisiaethau newydd. Am fwy o wybodaeth am fanteision y Gymraeg yn y byd gwaith, ewch i colegcymraeg.ac.uk.