Heno (24 Mawrth) yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd tri chymrawd er anrhydedd yn cael eu hurddo, sef Yr Athro Jane Aaron, Dafydd Evans, a’r Athro Iwan Davies, am eu cyfraniad eithriadol at addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector drydyddol.
Athro Emerita yn Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru ac awdur o fri yw’r Athro Jane Aaron. Ymhlith ei chyhoeddiadau diweddar mae’r cofiant Cranogwen, a enillodd Llyfr y Flwyddyn 2024 yn y categori Ffeithiol Greadigol.
Bydd yr Athro Aaron yn cael ei hurddo’n Gymrawd am ei chyfraniad helaeth ym maes ymchwil ac addysgu cyfrwng Cymraeg.
Meddai’r Athro Aaron:
“Mae wir yn anrhydedd derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd oddi wrth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: go brin fod yna unrhyw sefydliad addysg yng Nghymru heddiw sy’n haeddu mwy o barch na’r Coleg.
“Mae’r hyn mae wedi ei gyflawni oddi ar ei ffurfiant yn 2011 i ehangu a chyfoethogi datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg yn y sector drydyddol yn haeddu pob canmoliaeth.
“Anrhydedd go iawn yw cael bod yn rhan o’r fath sefydliad, ac mae fy niolch yn fawr i’r Coleg am fy ethol.”
Bydd Dafydd Evans, cyn Brif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai, yn derbyn y gymrodoriaeth am ei gyfraniad amlwg i’r sector addysg bellach, yn ogystal â’i rôl fel Cadeirydd ColegauCymru yn ystod y cyfnod pan ymestynnwyd y Coleg ei gyfrifoldebau i’r maes addysg bellach a phrentisiaethau yn 2017.
Yn ystod ei gyfnod yn arwain Grŵp Llandrillo Menai bu Dafydd yn eiriolwr dros bob agwedd o addysg, hyfforddiant a darpariaeth sgiliau, yn enwedig yng nghyd-destun economaidd gogledd Cymru.
Meddai Dafydd Evans:
“Mae yn anrhydedd o’r mwyaf derbyn y fath gydnabyddiaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Does dim amheuaeth fod y Coleg wedi cael dylanwad hynod o bositif ar y sector addysg bellach ac yn benodol ar gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau.
“Mae wedi bod yn bleser llwyr bod yn rhan o’r daith.”
Bydd yr Athro Iwan Davies yn derbyn y gymrodoriaeth am ei gyfraniad at hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe gan gynnwys sefydlu Academi Hywel Teifi.
Yn fwy diweddar bu’n Is-Ganghellor Prifysgol Bangor hyd at 2022, a bu’n aelod allweddol o Fwrdd y Coleg yn ystod blynyddoedd ei sefydlu yn 2011.
Meddai’r Athro Davies
“Mae derbyn y Gymrodoriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn fraint arbennig.
“Rwyf wedi bod yn gwbl ymrwymedig i genhadaeth y Coleg ers ei ddyddiau cynnar, ac i mi mae’r gydnabyddiaeth hon nid yn unig yn anrhydedd personol, ond yn gadarnhad pendant bod y gwaith o feithrin ysgolheictod o’r radd flaenaf trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan ganolog o’n dyfodol fel cenedl.”
Fel rhan o'r noson, bydd cyfle hefyd i gyflwyno tystysgrifau i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg
Meddai Dr Aled Eirug, Cadeirydd y Coleg,
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at Gynulliad Blynyddol y Coleg eleni er mwyn cydnabod gwaith aruthrol yr unigolion sydd wedi cyfrannu at ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector drydyddol ers sefydlu’r Coleg pymtheg mlynedd yn ôl.”
Ychwanegodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg,
“Braint o’r mwyaf fydd cael cwmni’r Athro Jane Aaron, Dafydd Evans a’r Athro Iwan Davies ar y noson, er mwyn cydnabod eu cyfraniad oes at addysg Gymraeg a dwyieithog yn y sector drydyddol.
“Mae eu gwaith diflino wedi braenaru’r ffordd i’r to nesaf o fyfyrwyr ac academyddion i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector drydyddol.”