Gyda marwolaeth yr Athro Hazel Walford Davies yn 85 oed, mae Cymru wedi colli ffigwr blaenllaw yn ein bywyd diwylliannol a deallusol, ac un a wnaeth gyfraniad nodedig dros ddegawdau fel addysgwraig, awdur a beirniad llenyddol.
Tra bydd eraill yn cofio amryfal gyfraniadau Hazel mewn amrediad o feysydd, bydd cymuned y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweld bwlch mawr wedi colli un a wnaeth gyfraniad allweddol ar sefydlu'r Coleg yn 2011.
Fel Cadeirydd Bwrdd Rheoli'r Ganolfan Addysg Uwch, rhagflaenydd y Coleg, rhwng 2006 a 2011 chwaraeodd Hazel ran bwysig yn y trafodaethau, anodd a chymhleth ar brydiau, a arweiniodd at sefydlu'r Coleg fel sefydliad cenedlaethol ac annibynnol ym maes addysg uwch.
Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg ers ei sefydlu yn 2011:
“Bu arweiniad doeth a chadarn Hazel Walford Davies, fel Cadeirydd Bwrdd Rheoli'r Ganolfan Addysg Uwch, yn elfen bwysig yn y trafodaethau a arweiniodd at sefydlu'r Coleg.
“Ar adeg pan oedd Prifysgol Cymru fel prifysgol ffederal yn datgymalu, nid gwaith hawdd oedd sicrhau cefnogaeth y prifysgolion i sefydlu corff cenedlaethol gydag ymrwymiad i weithredu ar sail gydweithredol.
“Roedd ei hurddo yn Gymrawd er Anrhydedd o'r Coleg yn 2011, ar yr un pryd a'r Dr Meredydd Evans, un o arweinwyr yr ymgyrch i sefydlu'r Coleg, yn gydnabyddiaeth o'i gwaith diflino yn y cefndir.
“Ar hyd y blynyddoedd ers hynny, roedd wedi parhau i ddangos diddordeb mawr yn natblygiad y Coleg, a braf oedd cael ei chwmni yn ein Cynulliad Blynyddol yn Aberystwyth yn gynharach eleni.
“Yn bersonol, mae arnaf ddyled fawr iddi am ei chefnogaeth gadarn, ei pharodrwydd i herio mewn ffordd adeiladol pan oedd angen, ond hefyd ei phenderfyniad i ddal ati i gael y maen i'r wal pan oedd hynny weithiau yn ymddangos yn amhosibl.
"Bu'n brofiad gwerthfawr i gydweithio, ac elwa ar ei phrofiad a'i chyngor.
“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf a'i phriod Walford, ei meibion Damian a Jason, a'r wyrion yr oedd mor falch ohonynt.”