Skip to main content Skip to footer

Bwrsariaeth Chwaraeon 

Bwrsariaeth Chwaraeon 

Defnyddio’r Gymraeg ym myd Chwaraeon – Bwrsariaethau i brentisiaid a dysgwyr sy’n astudio Chwareon.

Mae’r fwrsariaeth hon ar gau ar hyn o bryd a bydd hi ar agor cyn hir.    

Ydych chi’n adnabod dysgwr neu brentis sy’n astudio chwaraeon? Beth am eu perswadio i wneud cais am y fwrsariaeth chwaraeon?  

Pwrpas y fwrsariaeth yw annog dysgwyr a phrentisiaid i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn bersonol, yn y coleg neu â darparwyr prentisiaethau ac ar leoliadau gwaith. Cofiwch, brwdfrydedd i ddefnyddio’r Gymraeg sy’n bwysig nid lefel iaith y dysgwr neu brentis.  

 

Ffurflen gais y Fwrsariaeth Chwaraeon 

Dyddiad cau: mis Hydref 2023

Os yw dysgwr neu brentis yn llwyddiannus, byddan nhw’n cael eu talu ym mis Ionawr. Cofiwch: dim ond unwaith y gall dysgwr neu brentis dderbyn y fwrsariaeth hon.  

Ebostiwch post16@colegcymraeg.ac.uk am fwy o wybodaeth