Skip to main content Skip to footer
30 Ebrill 2024

Blog Gabi - 5 mantais siarad Cymraeg i’ch dyfodol

ADD ALT HERE

Dwi'n lysgennad ysgol yn Ysgol Cwm Rhymni a dyma fy mlog cyntaf i'r Coleg Cymraeg! 

Dwi’n siŵr mae pawb fel fi wedi clywed y waedd yno gan athro yn y coridor: “Cymraeg yw iaith yr ysgol hon bois!”, ac wedi’i diystyru. Mae’n hawdd anghofio pa mor bwysig yw hi i gadw’r iaith yn fyw, ac i’w ddefnyddio ym mhob agwedd o’n bywydau.

Pe bai hynny drwy adael neges yn y Gymraeg ar rwydwaith cymdeithasol, neu areithio o flaen neuadd lawn o bobl! Rydw i eisiau rhannu y 5 mantais i siarad Cymraeg i’ch dyfodol.

Cyfleoedd Swyddi

Dwi’n falch o allu siarad Cymraeg ac mae hyn yn fantais i unrhyw un sydd yn chwilio am swydd yng Nghymru, gan fod nifer o gyflogwyr yn chwilio am unigolion a’r sgil yma, nid yn unig yng Nghymru, ond ar gyfer busnes rhyngwladol hefyd!

Sgiliau Gwybyddol

Mewn geiriau eraill: ymarfer corff i’ch ymennydd! Mae gallu cyfnewid rhwng dwy iaith yn cryfhau eich sgiliau gwybyddol - mae pobl ddwyieithog yn fwy creadigol a hyblyg.

Cwrdd â phobl newydd

Gyda’r iaith yn tyfu yn ddyddiol, dy’ch chi byth yn gwybod lle fydd rhywun yn siarad Cymraeg. O siarad ar faes y ‘Steddfod gyda eich hoff seleb Cymraeg; Ohio yn yr Unol Daleithiau, lle mae dwy ardal yn cael eu hadnabod fel ‘Little Cardiganshire’; ac wrth gwrs yn yr Ariannin yn nhalaith Chubut.

Parhad yr iaith

Parhad yr iaith Teimlwch y balchder yna o allu siarad yr iaith hynafol yma. Iaith sydd wedi bod yn bodoli ers bron i 1500 o flynyddoedd. Byddwch yn un o’r unigolion i’w gadw’n fyw.

Addysg cyfrwng Cymraeg

Rydym ni yn byw mewn oes anhygoel sydd yn caniatáu i ni ddarganfod ardaloedd newydd o fewn Cymru i allu astudio. Hefyd, drwy sefydliadau fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rydym ni yn gallu derbyn cefnogaeth gyda’n llwybrau ni yn addysg uwch gydag ysgoloriaethau!