Skip to main content Skip to footer
30 Ebrill 2024

Blog Manon - Patagonia a Fi

ADD ALT HERE

Helo, Manon ydw i a dwi’n un o lysgenhadon ysgol y Coleg Cymraeg yn Ysgol Bro Edern, Caerdydd.

Rwy’n ddisgynnydd uniongyrchol i’r Cymry a fudodd i Batagonia yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Mae fy mam yn dod o Gaiman sef, y pentref mwyaf Cymraeg yno a dw i’n ystyried fy hun yn lwcus iawn bod modd i mi siarad Cymraeg a Sbaeneg gyda phobl yno ac yn gwerthfawrogi’r ddau ddiwylliant. Dwi’n ymweld â’r lle’n aml ac rwy’n teimlo fel dwi’n perthyn i’r ddwy wlad. Credaf ei bod yn hynod bwysig i anrhydeddu’r hanes cyfoethog yma rhwng y ddwy wlad.

 

Ble mae Patagonia?

Mae Patagonia yn anferth ond wrth sôn am Batagonia yng nghyd-destun y Gymraeg rydym yn cyfeirio at ardal o fewn yr Ariannin (rhyw 8,000 o filltiroedd o Gymru).

Hanes y Gymraeg yno:

Dechreuodd y Cymry ymfudo yno yn 1865 i sefydlu Y Wladfa, sef cymuned genedlaethol gyda’r Gymraeg yn iaith swyddogol gwleidyddiaeth a phob agwedd ar fywyd pob dydd. Oeddet ti’n gwybod bod merched yn cael pleidleisio yn Y Wladfa cyn i ferched Cymru ennill yr hawl i'w wneud?

Sefydlwyd Ysgol Ganolraddol y Camwy (Coleg Camwy erbyn hyn) ym 1906. Dyma oedd yr unig ysgol uwchradd yn y byd i ddysgu drwy’r Gymraeg ar y pryd. Ond gyda llawer yn symud i Batagonia o wledydd eraill Llywodraeth yr Ariannin yn mynnu defnyddio Sbaeneg mewn llywodraeth leol ac addysg, ciliodd y Gymraeg i fod yn iaith y teulu, ffermio, capeli ac ati. Ers 1997 mae Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor Prydeinig wedi bod yn rhannol ariannu gweithgareddau dysgu yno o wersi i oedolion a bellach wedi ymestyn i ysgolion.

Bywyd Cyfredol:

Mae tair ysgol gynradd Gymraeg /ddwyieithog ac mae rhai ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Sbaeneg hefyd yn cynnig gwersi Cymraeg ail iaith. Yn ôl y ffigurau (2021) gan y Cyngor Prydeinig gwelir bod dros 1,400 o bobl o bob oedran yn dysgu’r Gymraeg yno. Cynhelir Eisteddfod fawr ddwyieithog (Sbaeneg a Chymraeg) yno bob blwyddyn - mae gan Y Wladfa Gorsedd y beirdd ei hunan!

Dyfodol y Gymraeg:

Yma yng Nghymru weithiau mae pobl ifanc yn troi’n rhy hawdd at Saesneg ond draw yno ym Mhatagonia, er yr holl ansicrwydd am ddyfodol yr iaith yno mae pobl ifanc yn gweld y Gymraeg yn rhywbeth cŵl ac yn ymfalchïo yn eu gwreiddiau a diwylliant.

Llun manon wrth wal frics yn Patagonia