Skip to main content Skip to footer
20 Mai 2024

Blog Siwan - Cymraeg Rhyngwladol

ADD ALT HERE

Helo! Siwan ydw i ac rydw i’n ddisgybl ym mlwyddyn 13 yn ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Ar hyn o bryd rwy’n astudio Hanes, Cymraeg, Drama a’r BAC, yn y gobaith o fynd ymlaen i astudio Hanes a Chymraeg yn y brifysgol, a’r cwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Rwyf i, fel mwyafrif o ieuenctid Cymru yn aelod brwd o fudiad yr Urdd, yn cymryd rhan yn flynyddol yn yr eisteddfodau, cyrsiau ac ati ac wedi cael cyfleoedd bythgofiadwy o ganlyniad. Mae’r Urdd wedi dangos i mi'r nifer o gyfleodd rhyngwladol y gallwch gael oherwydd eich gallu i ddefnyddio’r Gymraeg.

 

Dros y blynyddoedd mae’r Urdd wedi datblygu cysylltiadau rhyngwladol ar draws y byd. Yn UDA, Kenya, Seland Newydd, Iwerddon, Brwsel, Camerŵn, Awstralia, Japan, Patagonia a mwy gan sicrhau bod Ieuenctid Cymry yn rhannu’u hangerdd a’u brwdfrydedd dros yr Iaith yn fyd eang. Mae’r cyfleoedd yno ar gael i chi!

 

Yn union fel dywed yr urdd, manteisiwch ar eich gallu i siarad Cymraeg i fynd allan i'r byd i gynrychioli Cymru a'r Gymraeg yn ychwanegol i ‘r nod o “adeiladu ar stori Cymru fel cenedl lwyddiannus, hyderus, fywiog ac agored.”

 

Cefais y fraint i fynychu a pherfformio yng ngŵyl Gymreig yn Disney Land Paris pan oeddwn yn iau ac wedi cael y profiad yna o ddefnyddio’r Gymraeg mewn digwyddiad a chysylltiad tramor oedd yn gyfle anhygoel a bythgofiadwy. Bues i hefyd ar gwrs Urdd x TG Lurgan, prosiect Cymru ag Iwerddon lle gwnaethom recordio gyd-gynhyrchiad trwy ddefnyddio Gwyddelig a'r Iaith Gymraeg.

 

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwledydd a theithio ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn medru agor drysau i mi wneud cysylltiadau a gweld y byd wrth ddefnyddio’r Gymraeg.