Skip to main content Skip to footer
1 Mai 2024

Blog Steff - Gwerth y Gymraeg yn byd gwaith

ADD ALT HERE

Helo! Fy enw i ydy Steff a dwi'n lysgennad ysgol i'r Coleg Cymraeg yn Ysgol Bryn Tawe, Abertawe.

Dwi wedi penderfynu sgwennu blog am 'Oes pwynt i’r Gymraeg yn y byd gwaith?'

Ydych chi byth wedi ceisio ar gyfer swydd? Ydych chi byth wedi mynd trwy eich CV gan werthuso pob pwynt bach? Os i chi fel fi, yr ateb yw ydw, ond yn aml nad ydym yn cynnwys ein ‘super power'; ein hiaith.

Mae llawer yn gweld yr iaith fel rhywbeth sy’n marw wrth adael ysgol ond a wyddoch chi mae yna filoedd o swyddi sy’n rhoi’r iaith Cymraeg fel sgil hanfodol er mwyn ymgeisio! 

Felly, os ydych yn ymgeisio ar gyfer y swydd yma, mae’ch siawns o dderbyn y swydd yma newydd wella llawer oherwydd mae’ch cystadleuaeth llawer llai wrth gymharu gyda swyddi arferol. Ond nid hon yw’r unig fudd sy’ ar gael trwy weithio’n Gymraeg. Yn aml mae’ch tâl hefyd yn codi gan eich bod chi yn berson arbennig ac felly rydych chi werth mwy i’r sefydliad yna.

Rydw i’n nabod sawl person sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae pob un ohonynt yn ddweud eu bod nhw wedi derbyn cyfleoedd arbennig o ganlyniad i’w defnydd o’r Gymraeg. Enghreifftiau o rhain yw siarad efo beirdd llwyddiannus, siarad efo’r prif weinidog a hyd yn oed Gareth Bale!

Ond gallai clywed chi nawr yn dweud, ‘ond mae mwy o swyddi ar gael yn Saesneg, felly pam ymgeisio ar gyfer un yn y Gymraeg?’ Wel, fy nghyngor i chi bydd peidiwch oedi! Bydd unrhyw swydd Saesneg yn fwy na hapus i'ch cymryd chi, ond os ydych chi am dâl gwell neu hyd yn oed amgylchedd gwaith gwell, tybed os yw’r Gymraeg yn bŵer anhygoel gallwch fanteisio arno?