Fy enw i yw Cara, ac rydw i newydd gwblhau cwrs MA: Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd cwblhau’r MA a’r traethawd hir yn brofiad gwerthfawr ac heriol, ond hefyd cefais lawer o foddhad. Fe wnes i ddysgu llawer am reoli amser, cadw ffocws dros gyfnod hir, a sut i feithrin hyder yn ymchwil fy hun — sgiliau fydd yn amhrisiadwy wrth i mi fynd ymlaen i’r PhD. Eleni, rydw i’n dechrau ar fy PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac o dan oruchwyliaeth yr adran gyfryngau, eto ym Mhrifysgol Abertawe.
Ar ddydd Mawrth, 16eg o Fedi, bûm yng nghyfarfod cynefino cyntaf y Coleg Cymraeg fel rhan o’r ysgoloriaeth ymchwil. Roedd hi’n brofiad oedd yn wir yn teimlo fel dechrau newydd. Doedd dim byd gwell na chael paned a chyfle i gwrdd â myfyrwyr eraill, nid yn unig o Abertawe ond o bob cwr o Gymru. Roedd pawb ar yr un siwrne, ac roedd hynny’n galonogol iawn – sylweddolais nad ydw i ar ben fy hun yn y broses yma; rydym yn gymuned yn ein hunain.
Dechreuodd y diwrnod gyda chyfarchion gan Dr Dylan Phillips, a roddodd eglurhad clir o rôl y Coleg Cymraeg a disgwyliadau’r ysgoloriaeth. Roedd y cyflwyniad hwnnw’n gwneud i’r cyfan deimlo’n go iawn – a hefyd yn gyffrous.
Yna, cyflwynodd Dr Manon James yr holl gyfleoedd sydd ynghlwm â’r ysgoloriaeth: o’r cyrsiau sgiliau a’r cyfnodolyn Gwerddon, i’r cyfle i ddarlithio. Pwysleisiodd sut y gallwn dyfu nid yn academaidd yn unig, ond hefyd fel unigolion.
Cawsom gyfarfod â Nadine Kurton, swyddog y wasg ar gyfer y Coleg Cymraeg, a rhannodd hi’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-radd i ymddangos yn y cyfryngau. Er bod y syniad o siarad yn gyhoeddus ar y teledu neu’r radio yn gallu swnio’n frawychus, fe wnaeth Nadine bwysleisio pa mor werthfawr yw’r profiad, a sut y gall helpu i rannu ein hymchwil gyda chynulleidfa ehangach. Roedd cinio wedyn yn gyfle hamddenol i sgwrsio, cysylltu, a gofyn cwestiynau mewn awyrgylch llawer mwy anffurfiol.
Yn y prynhawn, cafwyd gweithdy gyda Dr Hanna Hopwood. Roedd y sesiwn hon yn hynod fuddiol ac ysbrydoledig, gan ein hannog i fyfyrio ar ein ffordd o weithio a sut i ofalu amdanaf ein hunain drwy gydol y daith ymchwil. Pwysleisiodd mor anodd yw eistedd o flaen sgrin 9–5, a pha mor bwysig yw gwneud ymarfer corff, bwyta’n iach ac yfed digon o ddŵr. Roedd yn ein hannog i edrych yn ôl ar ein profiadau blaenorol a gofyn i ni ein hunain: beth sy’n fy ysgogi? Beth mae llwyddiant yn ei olygu i mi? A sut alla i greu profiad gwell a mwy cytbwys wrth wneud PhD?
Wrth ddychwelyd adref a myfyrio ar y dydd, teimlais fod fy nhaith wedi dod yn llawer mwy eglur. Roeddwn i wedi derbyn esboniad clir o’r disgwyliadau ac roedd gen i fwy o syniad o’r hyn rydw i am gyflawni dros y tair blynedd nesaf. Roedd y diwrnod wir yn bont rhwng fy amser ar y radd Meistr a’r PhD – gan ddangos nad gwaith caled a chynhyrchiant yn unig sy’n cyfrif, ond y ffordd rydyn ni’n dewis profi’r daith. Gadewais gyda chymysgedd o gyffro a diolchgarwch – ac yn barod i ddechrau ar bererindod y PhD.