Skip to main content Skip to footer
29 January 2025

Fy nhaith i Wlad y Basg

ADD ALT HERE

Elen Bonner, deiliaid Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, sy'n adlewyrchu ar ei thaith i Wlad y Basg

Ym mis Tachwedd 2023 gwelwyd dros 70,000 o bobl yn protestio ar strydoedd Bilbao. Gwrthwynebu dyfarniadau llysoedd Sbaen yn erbyn normaleiddio’r Fasgeg o fewn y sector cyhoeddus oedd achos y gweithredu. Mae’n debyg bod y Basgwyr yn teimlo’n gryf am y cyfleoedd sydd ganddynt i ddefnyddio’u hiaith. Fel ymchwilwyr sy’n ymddiddori mewn ieithoedd lleiafrifol, mae gennym ninnau hefyd ddiddordeb yn y cyfleoedd hyn, felly dyma ni’n manteisio ar y cyfle i ymgymryd â thaith ymchwil yno dan nawdd Grant Arloesi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Llai nag wythnos wedi’r brotest fawr teithiais ynghyd â fy ngoruchwylwyr o Brifysgol Bangor a chyd-weithiwr o Gyngor Gwynedd i Wlad y Basg er mwyn dysgu mwy am y sefyllfa ieithyddol yno - ac am ddilyniant ieithyddol yn benodol. Yr hyn a olygir wrth ddilyniant ieithyddol yw’r cyfleoedd sydd gan siaradwyr i ddefnyddio iaith yn ystod cyfnodau gwahanol o’u bywydau gyda’r nod, er enghraifft, o gynnal cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith wrth drosglwyddo o fyd addysg i fyd gwaith. Yn hynny o beth, wnaethom ymweld ag Ikestola (ysgolion cyfrwng Basgeg), coleg addysg bellach, prifysgol a Chyngor Donostia, ynghyd a sefydliadau ieithyddol eraill. Gellir darllen mwy am ein profiadau ni o ddilyniant ieithyddol yng Ngwlad y Basg mewn erthygl Gwerddon Fach yma.   

Mae fy ngwaith ymchwil PhD yn archwilio'r berthynas rhwng yr economi, mudo a’r Gymraeg gan edrych yn benodol ar yr hyn sy’n gyrru penderfyniadau mudo siaradwyr Cymraeg o ardaloedd sydd yn draddodiadol wedi eu hystyried yn gadarnleoedd i'r iaith.

Pam fod rhai unigolion yn dewis aros, eraill yn gadael, tra bod canran yn dychwelyd drachefn? Wrth reswm, mae goblygiadau i batrymau mudo o safbwynt cynaladwyedd y Gymraeg gyda sefydliadau amrywiol yn mynegi pryder am allfudo siaradwyr Cymraeg o’r ardaloedd hyn. Roeddwn yn awyddus i weld a oedd Gwlad y Basg yn profi heriau tebyg.

Wrth ymweld â gwahanol sefydliadau o fewn y gymuned ymreolaethol, yr hyn oedd yn taro ymwelydd o Gymru oedd pa mor debyg yw’r sefyllfa ieithyddol yng Ngwlad y Basg o gymharu â’n sefyllfa ni. Fodd bynnag, er syndod i mi, doedd mudo gan bobl ifanc o Wlad y Basg ddim yn broblem amlwg. Wrth egluro’r sefyllfa yma yng Nghymru, hynny yw, bod siaradwyr Cymraeg ifanc yn gadael y cadarnleoedd, byddai’r sawl yr oeddwn yn holi yn gwrando yn astud, ond yn wahanol i bron bob un testun trafod arall nid oeddynt yn ymateb drwy rannu profiadau tebyg. Eglurwyd bod gan Wlad y Basg economi gref ac yn gysylltiedig â hyn eu cred oedd bod yna ystod o gyfleoedd deniadol i bobl ifanc yn lleol. O ganlyniad, roedd pobl ifanc Gwlad y Basg yn dueddol o aros yng Ngwlad y Basg. O feddwl am Gymru, ydy hyn o bosib yn cynnig cyfiawnhad pellach o’r angen am raglenni megis Arfor sydd â’r nod o ddatblygu’r economi mewn ardaloedd sy’n gadarnleoedd i'r Gymraeg?

Fodd bynnag, mae’n debyg bod Gwlad y Basg yn wynebu heriau eraill o safbwynt mudo. Yn ôl y bobl ifanc bues yn sgwrsio gyda hwy o Ikastola mewn ardal â dwysedd uchel o siaradwyr y Fasgeg, roeddynt yn siarad yr iaith ym mhob agwedd o’u bywydau - yn yr ysgol, yn y cartref ac yn ystod eu hamser hamdden. Yn eu tyb hwy, yr unig barth lle’r oeddynt yn debygol o ddefnyddio’r Sbaeneg o ddydd i ddydd oedd wrth fynd i siopa. Ymddengys bod mudo economaidd o Dde a Chanolbarth America i Wlad y Basg yn duedd cyffredin gan fod y Sbaeneg yn iaith gyffredin i’r ddwy diriogaeth. Yn aml iawn, mae’r mewnfudwyr yn dod o hyd i waith yn y sector manwerthu (o bosib oherwydd bod diffyg sgiliau yn y Fasgeg yn rhwystr i weithio mewn sectorau eraill). Canlyniad posib i hyn yw bod y cyfleoedd i ddefnyddio’r Fasgeg o fewn y sffêr benodol yma wedi eu cyfyngu ar gyfer siaradwyr yr iaith. Mae'n bosib felly bod Gwlad y Basg yn wynebu heriau tebyg i ni yng Nghymru o safbwynt sut i gyflwyno'r iaith i fewnfudwyr mewn modd croesawgar a chynhwysol.

Wrth ddychwelyd i Gymru adlewyrchaf ar y croeso cynnes a dderbyniwyd yng Ngwlad y Basg, a gobeithiaf y byddwn ninnau hefyd yn gallu estyn yr un croeso i ymwelwyr sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol eraill rhywbryd yn y dyfodol. Eskerrik asko!