Skip to main content Skip to footer
18 September 2024

Blog Ellis: Profiad o Gyrsiau Sgiliau Ymchwil y Coleg

ADD ALT HERE

Dyma brofiad Ellis, llysgennad ͏ôl-radd a deiliad ysgoloriaeth ymchwil o Brifysgol Caerdydd, o Raglen Sgiliau Ymchwil y Coleg.

 

Mae yno nifer lu o resymau pam y buaswn yn annog unrhyw fyfyriwr ôl-radd i fynychu’r rhaglen sgiliau ymchwil a drefnir gan y Coleg Cymraeg.

I ymhelaethu, gwahanir y rhaglen yn bedair cwrs ac fe’u cynhelir mewn canolfannau o’r radd flaenaf ym mhrifysgolion ar draws Cymru. Rhoddodd hyn gyfle i mi deithio o amgylch Cymru a phrofi bywyd mewn prifysgolion eraill.

Roedd hyn hefyd yn bywiogi’r elfen gymdeithasol - neu ryngweithiol - o’r cyrsiau sef y cyfle i rannu profiadau a dod i adnabod eraill sydd hefyd yn fyfyrwyr ôl-radd mewn sefydliadau ledled Cymru. Mae bod yn rhan o rwydwaith o fyfyrwyr ac ymchwilwyr gyrfa gynnar yn anogaeth fawr, braf oedd cael treulio amser gyda nhw!

Rwy’n sicr wrth drafod ag eraill ein bod ni gyd wedi cael budd o fynychu’r cyrsiau, yn enwedig gan fod y rhaglen yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n allweddol i ddatblygiad ymchwilwyr effeithiol o fewn unrhyw faes. Mantais cael sesiynau hyfforddi cyffredinol oedd bod pawb yn medru dysgu ohonynt, ond yn ogystal roedd y cyflwynwyr yn creu pwyslais ar ddeunydd cynnwys y sesiwn i feysydd penodol.

Roedd hyn yn hynod ddefnyddiol i mi fel gwyddonydd, yn enwedig yn ystod sesiynau hyfforddi ar ddulliau ymchwil, gwella sgiliau cyflwyno a’r sesiwn ar ymchwil a chyhoeddi. Gan fy mod yn astudio ar gyfer doethuriaeth roedd y sesiynau penodol megis paratoi ar gyfer y Viva yn help llaw fawr, a’r cyflwynwyr profiadol yn fwy na pharod i roi awgrymiadau gwerthfawr. 

Un nodwedd ragorol am y cyrsiau oedd eu bod yn rhoi ystyriaeth i gynllunio gyrfaoedd, gyda sesiynau hyfforddi wedi’u deilwra yn benodol ar gyfer adeiladu ceisiadau swydd a CV yn ogystal â chynnig cyfle i ymarfer ar gyfer cyfweliadau. Teimlaf hefyd fod fy sgiliau ieithyddol wedi elwa o’r cyrsiau hyn a fy mod wedi paratoi yn well ar gyfer defnyddio’r iaith yn fy astudiaethau a gyrfa.

Gwell imi sôn fod yr hyfforddiant a ddarperir yn rhad ac am ddim, gan gynnwys llety a lluniaeth, bydd hefyd ad-daliad am gostau’r daith i bob sesiwn. Cynghoraf unrhyw ddarpar-fyfyriwr ôl-radd a’r rhai cyfredol i wneud defnydd o’r cyrsiau yma, fe fwynheais i nhw’n fawr a dysgu llawer ac mae’r cyfle yno i chi hefyd!

Gwybodaeth am Raglen Sgiliau Ymchwil 2024-25