Skip to main content Skip to footer
2 September 2024

Tips wrth ddechrau PhD

ADD ALT HERE

Ar fin dechrau’r daith o wneud PhD? Dyma ambell air o gyngor gan Megan, llysgennad ôl-radd ym Mhrifysgol Abertawe.

Fel rhywun sydd ar drothwy’r bedwaredd flwyddyn (a’r flwyddyn olaf!) o EngD (doethuriaeth broffesiynol mewn peirianneg), rwy’n teimlo fy mod i’n gyfarwydd iawn â bywyd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe erbyn hyn. ‘Dw i’n hoff o ddefnyddio datganiadau cadarnhaol (positive affirmations) yn ystod cyfnodau heriol, felly dyma ambell un gobeithiaf y bydd yn ddefnyddiol wrth ddechrau doethuriaeth o unrhyw fath neu bwnc.

 

1. Cofleidiwch y Chaos

Pan fyddwch chi’n dechrau ar y daith ddoethurol, mae’n bosibl bydd popeth yn teimlo fel ei fod dros y lle i gyd. Mae’n gam mawr i ddechrau ar brosiect lle rydych chi’n gyfrifol dros bopeth o’r nod cyntaf i’r frawddeg derfynol yn y traethawd hir. Hefyd, yn aml iawn, nid yr ymchwil yn unig sydd ar y rhestr o bethau i’w wneud. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr doethurol yn gorfod ymgymryd â chyfrifoldebau dysgu, hyfforddiant arbenigol, cyhoeddi gwaith ar ffurf erthyglau, a/neu gyflwyno yng nghyfarfodydd a chynadleddau. Ar ben hynny, os ydych chi, fel fi, wedi symud o brifysgol arall, mae’n dasg yn ei hunan i ddarganfod lle i fynd am adnoddau, gwybodaeth, neu offer. Mae’n gallu teimlo’n chaotig i fod ynghanol hyn i gyd, ond ‘dw i wedi dysgu bod llawer o le i dyfu os cofleidiwn ni’r chaos yn hytrach na brwydro yn ei erbyn.

Cofiwch, faint o bobl ydych chi’n adnabod sy’n dechrau swydd newydd ac yn cael cyfrifoldeb unigol dros brosiect cyfan yn syth, yn ogystal â chyfrifoldebau eraill? Felly cofiwch hynny pan fyddwch chi’n pendroni pam fod pethau’n teimlo’n ormod! Wrth i amser fynd heibio, byddwch chi’n ymgyfarwyddo â phopeth.

 

2. Dim ond Newid sy’n Gyson

Ar thema debyg, mae’n hynod o brin i weld prosiect doethurol sy’n cadw’r un wedd o ddechrau i ddiwedd y cyfnod ymchwil. Fel canlyniad dilyn llwybr ymchwil dros nifer o flynyddoedd, mae’n anorfod y bydd ffiniau maes eich ymchwil yn esblygu, bydd offer yn torri, neu bydd goruchwylwyr yn symud ymlaen i swyddi newydd (tair gwaith yn fy achos i!). Yn ystod fy nghyfnod doethurol hyd yn hyn, ‘dw i wedi gweithio gyda phedwar goruchwyliwr academaidd (ac yn cyfri...) yn olynol, ac wedi newid teitl fy mhrosiect yn gyfan gwbl wrth ystyried angen mwyaf diwydiant ar hyn o bryd. Nid oes bai ar neb dros hyn, ac yn fy marn i, mae’n iawn i chwilio am yr effeithiau positif os na fydd pethau yn troi allan fel y disgwylir.

Er enghraifft, oherwydd trawsnewid teitl a chyfeiriad fy mhrosiect ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, ‘dw i wedi treulio amser yn gweithio gydag academydd o brifysgol hollol wahanol. Ar y dechrau, roedd yn naturiol i mi fod yn nerfus am ychwanegu cydweithrediad arall at y prosiect ar ben yr ansicrwydd o newid cynlluniau, ond erbyn hyn mae gennyf oruchwyliwr ychwanegol gwych sy’n herio a chefnogi fy ngwaith ac yn dod ag arbenigedd a phrofiad y byddwn i ar goll hebddo. Nid oeddwn i’n cynllunio na rhagweld cael goruchwyliwr ‘allanol’, ond dwi’n ddiolchgar iawn ei fod wedi digwydd!

Mae hyblygrwydd a gwydnwch yn rhinweddau dymunol iawn yn y gweithle felly byddwn i’n argymell gweld y cyfnod doethurol fel cyfle i’w hymarfer a’u meistroli.

 

3. Arhoswch yn eich Lôn eich Hun

Gall y byd academaidd fod yn un cystadleuol ac unigolyddol iawn lle mae’n hawdd cymharu eich hun â’ch cyfoedion yn yr un sefydliad a thu hwnt, yn enwedig pan ddaw’r amser i fynychu cynadleddau neu gyflwyno erthygl i adolygwr am y tro cyntaf (er, mae academyddion profiadol yn teimlo fel hyn ar ôl gwneud y fath bethau droeon!).

Serch hynny, fel ym mhob agwedd arall o fywyd, mae gan bawb rhywbeth unigryw i’w gynnig. Gan fod ymchwil yn seiliedig ar syniadau, prosesau, a dehongliadau newydd, mae’n beth da ein bod ni i gyd yn meddwl, ysgrifennu, a chyflwyno mewn ffyrdd gwahanol.

Er enghraifft, ‘dw i’n gweithio yn bennaf gyda thechnegau cyfrifiadurol - ‘dw i wrth fy modd â mathemateg a rhaglennu! Ond mae’r rhan fwyaf o’m cydweithwyr yn gweithio ar yr ochr arbrofol ac nid mathemateg yw eu hoff agwedd o astudio peirianneg o bell ffordd. Ar ddechrau fy mhrosiect, roeddwn i’n teimlo’n ansicr am y ffaith nad oes gennyf dueddiad i dreulio oriau yn y labordy ac, yn hytrach, roedd hafaliadau yn dod ag ysbrydoliaeth i mi. Erbyn hyn, ‘dw i’n gwerthfawrogi bod gennyf safbwynt amgen i’w gynnig ar brosesau gweithgynhyrchu oherwydd y ffordd wahanol rwy’n dadansoddi ac ymgysylltu â’r wyddoniaeth, ac yn yr un modd, rwy’n gwerthfawrogi safbwynt fy nghydweithwyr gwahanol. Bydd amrywiaeth o syniadau yn dwyn y datrysiad peirianneg (neu ddadl neu ateb) gorau.

 

4. Un Cam ar y Tro

Ymateb bob tro un o’m cydweithwyr i’r cwestiwn am sut mae’r ymchwil yn dod ymlaen bydd: ‘Camau bach, bob dydd’. Credaf fod hwn yn gyngor gwych ar gyfer her fawr fel doethuriaeth. Os meddyliwch chi am y ddoethuriaeth gyfan, y 3, neu 4, neu hyd yn oed 5 mlynedd yn eu cyfanrwydd, y miloedd o eiriau sy’n gwneud y traethawd hir, ac yn y blaen, wrth gwrs mae’n teimlo fel tasg bron yn amhosibl. I mi, mae’n llawer mwy effeithiol canolbwyntio ar y tasgau sydd wrth law'r mis hwn, yr wythnos hon, neu jyst heddiw.

Er enghraifft, ar hyn o bryd rwy’n mynd trwy’r broses adolygiad gan gydweithwyr fel rhan o gais cyhoeddi erthygl academaidd. Mae’n broses hir ac mae rhaid i chi fod yn barod am feirniadaeth gref ond bob tro ‘dw i’n creu drafft newydd o’r gwaith, ‘dw i’n canolbwyntio ar y fersiwn presennol yn unig a sut y gallaf wella arno. Trwy dalu sylw at fanylion y problemau bach yn yr eiliad hon, ‘dw i’n camu’n gyson at ddatrys y broblem fawr.

 

5. Dringwch Bob Mynydd

Yng ngeiriau anfarwol lleianod y ffilm ‘The Sound of Music’ - climb every mountain!
Yn bersonol, er gwaethaf yr holl heriau sy’n dod ynghlwm â doethuriaeth, credaf yn gryf mai dyma un o freintiau mwyaf fy mywyd. Byddwch chi’n annhebygol iawn o dderbyn cyfle eto i ddysgu, archwilio, a datblygu (yn broffesiynol ac yn bersonol) mewn ffordd mor ddwys (ac yn aml mewn ffyrdd hollol annisgwyl, er enghraifft gwnes i greu, datblygu, a chyflwyno prosiect allgymorth peirianneg cyfrwng Cymraeg dan nawdd y Coleg Brenhinol Peirianneg yn ystod y ddwy flynedd gyntaf fy EngD).

Rwy’n ymwybodol fod ambell beth rwyf wedi trafod efallai’n swnio fel llawer i ymdopi â nhw, mewn ffordd sy’n gwneud codi temtasiwn i beidio â gwneud PhD o gwbl. ‘Dw i wedi teimlo'r un fath sawl gwaith. Ond erbyn hyn, ‘dw i wedi dringo nifer o’r mynyddoedd yn nhirwedd y ddoethuriaeth ac wedi gweld y budd mewn edrych arnynt fel cyfleoedd mawr i ddatblygu, ac os dowch chi drostynt, pwy a ŵyr beth sydd ar yr ochr arall...