Gŵyl y Glaniad:
Yn fy mhlog blaenorol soniais i am bwysigrwydd y Gymraeg ym Mhatagonia, ac ar yr un trywydd tybed a ydych wedi clywed am Gŵyl y Glaniad? Mae hyn yn gyfle arbennig i gofio am ddewrder a gwaith caled y gwladfawyr Cymreig yn ogystal â'r aberthau a wnaethant er mwyn sefydlu cartref ym Mhatagonia.
Pwysigrwydd yr Ŵyl:
Mae’r ŵyl yn bwysig iawn ifi oherwydd ei bod hi’n cofnodi ymdrech arloesol i sefydlu Gwladfa Gymreig ac i ddathlu’r ffaith bod y Cymry dewr hyn wedi goroesi taith hir a pheryglus i ochr arall y byd; dynion, merched a plant fel ei gilydd.
Pryd mae Gŵyl y Glaniad?
Caiff yr ŵyl ei dathlu’n flynyddol ar 28ain o Orffennaf ledled Patagonia.
Yr hanes:
Mae’r ŵyl yn dathlu y Cymry’n ymfudo i Batagonia yn 1865 i sefydlu Y Wladfa. Ar y 28ain o Orffennaf fe wnaeth y Cymry a deithiodd ar y Mimosa (153 o bobl) lanio ar draeth Porth Madryn.
Sut i’w dathlu?
Yn draddodiadol dethlir yr ŵyl wrth i boblogaeth tref y Gaiman (sef canolbwynt diwylliannol Y Wladfa Gymreig yn Nyffryn Camwy) ddod ynghŷd ac ymgynnull yn y tai te a’r capeli Cymreig lle caiff sawl te bach eu cynnal sy’n cynnwys mwynhau’r te Cymreig a’r ‘’torta negra galesa’’, sef cacen ddu draddodiadol Gymreig. Cynhelir llawer o ddigwyddiadau eraill megis: dawnsio gwerin, cymanfaoedd canu, siaradwyr yn adrodd stori’r glaniad, cyngherddau amrwyiol a chymdeithasu gyda’r holl gymuned yn dod at ei gilydd.
Dathliad 2015:
Bues i yno yn ystod dathliad 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa ar yr 28ain o Orffennaf 2015. Nes i fwynhau gyda'r cannoedd eraill oedd wedi ymgasglu ar draeth Madryn dan ganu a siarad. Cafodd anerchiadau gan lawer o bobl gan gynnwys un gan brif weinidog Cymru ar y pryd sef Carwyn Jones a gwleidyddion Chubut (y dalaith ble mae’r Wladfa). Wedyn roedd Cymanfa Ganu ac Eisteddfod yng nghanol y dref.
Yn ogystal, ar y traeth ble ganiodd y Cymry roedd llong replica maint llawn y Mimosa yn hwylio heibio gyda grŵp o bobl yn rhwyfo o’r Mimosa i’r traeth i ailgreu y glaniad gwreidddiol ar y traeth hwnnw 150 o flynyddoedd yn ȏl.
Yn ogystal ȃ hyn, ers y flwyddyn 2000 mae llwyth brodorol sef y Tehuelche a disgynyddion y Cymry yn cynnal ras arbennig gydag un tîm yn cynrychioli'r brodorion ac un arall yn cynrychioli'r gwladfawyr. Maen nhw’n rolio casgen o’r ogofȃu lle roedd y Cymry yn byw am gyfnod ar ȏl cyrraedd, hyd at ganol Porth Madryn. Mae hyn yn coffȧu hanes hir o gyd-fyw heddychlon rhwng y ddau grŵp gan gynnwys y mabolgampau a gynhaliwyd rhwng y Cymry a’r Tehuelches ar ȏl iddynt ddod yn ffrindiau yn fuan ar ȏl y glaniad. Oni bai am yr help roddodd y llwyth i’r Cymry, er enghraifft drwy hela bwyd, byddai’r Cymry siŵr o fod heb oroesi felly dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am hynny hyd heddiw!