Skip to main content Skip to footer
Mathemateg Workshops

Mathematics Workshops 9/3/23

Thursday, March 9, 2023
Mathemateg Workshops

Awydd astudio Mathemateg yn y brifysgol? Eisiau cael blas ar fywyd myfyriwr Mathemateg a darganfod at ba yrfa y gallai gradd Mathemateg arwain? Dyma’ch cyfle i gael ragor o wybodaeth, cael blas ar fodiwlau a holi’ch cwestiynau i ddarlithwyr a chyn-fyfyrwyr!

Fel rhan o’r gyfres bydd tri gweithdy byw ar-lein. Bydd y ddau gyntaf yn cael eu harwain gan ddarlithwyr Mathemateg o brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd ac fe’u cefnogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod y gweithdai hyn, bydd cyfle i chi gael blas ar fodiwl prifysgol; cyfarfod a dod i adnabod darlithwyr cyfrwng Cymraeg; gael rhagflas o'r hyn y mae'r brifysgol yn ei gynnig i fyfyrwyr sy'n astudio Mathemateg yn Gymraeg  (e.e. dewis o fodiwlau, y math o gyrsiau sydd ar gael – anrhydedd sengl, cyfun); holi unrhyw gwestiynau.

Cyflogadwyedd fydd ffocws y gweithdai olaf. O gyfrifydd i beiriannydd meddalwedd i feteorolegydd, mae gradd mewn Mathemateg yn agor llu o ddrysau. Bydd graddedigion Mathemateg sydd bellach yn y byd gwaith yn rhannu eu profiadau o fuddion gradd mewn Mathemateg, sut mae’r radd wedi eu helpu yn eu gyrfa ac yn rhoi rhagflas o’i gwaith.

Nos Iau 9 Mawrth 2023, 7pm - Prifysgol Aberystwyth

Dr Tudur Davies a Dr Gwion Evans fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Geometreg arwynebau minimol’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. 

 

Nos Iau 16 Mawrth 2023, 7pm – Prifysgol Caerdydd

Dr Dafydd Evans, Dr Mathew Pugh a Dr Gwion Palmer fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Hapgerddediadau’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau

Nos Iau 23 Mawrth 2023, 7pm – Cyflogadwyedd

Dewch i glywed am yr ystod eang o yrfaoedd sydd modd i chi eu hystyried ar ôl astudio gradd Mathemateg a chlywed profiadau graddedigion. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn cysylltwch â l.rees@colegcymraeg.ac.uk