Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi rhifyn newydd o Gwerddon sy’n cynnwys pedair erthygl academaidd newydd.
Meddai'r Athro Anwen Jones, Golygydd Gwerddon:
“Mae’n bleser cyhoeddi rhifyn 37 Gwerddon. Fel erioed, mae’r cynnwys yn cynrychioli ystod amrywiol o feysydd: hanes, llenyddiaeth Gymraeg ac athroniaeth, ac yn arwydd o fywiogrwydd y byd ymchwil cyfrwng Cymraeg.”
Mae’r erthygl gyntaf, ’Priodi ac ysbïo: teithio arloesol Georges Dufaud o Nevers i Ferthyr Tudful ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan yr Athro Heather Williams, yn ymdrin â chysylltiadau personol a diwydiannol y teulu Crawshay ym Merthyr Tudful â’r teulu Dufaud yn Ffrainc. Trafodir dyddiaduron taith, nodiadau a llythyron Georges Dufaud a’i fab Achille Dufaud wrth iddynt ymweld â Merthyr. Datgelir drwy’r testunau hynny argraffiadau’r Ffrancwyr o Ferthyr a goruchafiaeth ddiwydiannol y dref honno, yn ogystal ag agweddau ymarferol teithio a chyllido yn y cyfnod hwnnw.
Yn yr ail erthygl, ‘Cythryblus a thrychinebus’: Gwrthryfel y Pasg, 1916, a’r Wasg Gymreig, mae Dr Gethin Matthews yn archwilio ymateb y Cymry i Wrthryfel y Pasg yn Nulyn yn 1916. Daw i’r casgliad nad oedd pobl Cymru ar y pryd yn deall nac yn cydymdeimlo â’r digwyddiadau. Mae’r erthygl hefyd yn olrhain sut yr edrychwyd ar ddigwyddiadau yn Iwerddon yng nghyd-destun y rhyfel yn erbyn yr Almaen, a’r modd yr oedd y cysyniad ei bod yn fuddiol i Iwerddon, fel Cymru, aros yng nghôl yr Ymerodraeth Brydeinig wedi ei wreiddio mor ddwfn fel nad oedd modd ei herio.
Gweler isod fideo gan Dr Gethin Matthews yn crynhoi ei erthygl:
Cerddi’r Ficer Rhys Prichard sydd dan sylw yn y drydedd erthygl, sef Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard gan Dr Dewi Alter. Dadansoddir cerddi poblogaidd y Ficer Rhys Prichard wrth archwilio ystyriaethau ynghylch cwsg mewn llenyddiaeth Gymraeg. Manylir ar brif nodweddion cerddi cwsg y Ficer a chawn gipolwg ar sut roedd rhai pobl yn cysgu, neu sut yr oedd y Ficer yn credu neu’n dymuno eu bod yn cysgu. O ganlyniad, dengys yr erthygl hon bwysigrwydd cwsg yn y cyfnod a bod pobl yn ei gymryd o ddifri.
Mae erthygl Dr Dafydd Huw Rees, ’Cyfreithusrwydd Gwleidyddol ar Gyhoeddfa Gymreig: Dadansoddiad Habermasaidd’, yn defnyddio athroniaeth wleidyddol Jürgen Habermas i ddadansoddi’r honiadau bod sefydliadau gwleidyddol datganoledig Cymru’n dioddef o ‘ddiffyg democrataidd’, sydd yn gysylltiedig â ‘diffyg cyfryngau’. Mae damcaniaeth Jürgen Habermas o ddemocratiaeth trafodol yn awgrymu bod angen cyhoeddfa iach ar wlad er mwyn i’w sefydliadau gwleidyddol fod yn gyfreithus. Archwilir cyflwr cyhoeddfa Cymru, a deir i’r casgliad bod ganddo ddiffygion difrifol, sydd yn ei dro yn tanseilio cyfreithusrwydd sefydliadau gwleidyddol datganoledig y wlad.
Dyma’r pedair erthygl sydd ar gael i’w darllen ar wefan Gwerddon.
-
Priodi ac ysbïo: teithio arloesol Georges Dufaud o Nevers i Ferthyr Tudful ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg – yr Athro Heather Williams, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
-
‘Cythryblus a thrychinebus’: Gwrthryfel y Pasg, 1916, a’r Wasg Gymreig – Dr Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe
-
Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard – Dr Dewi Alter, Prifysgol Caerdydd
-
Cyfreithusrwydd Gwleidyddol a’r Gyhoeddfa Gymreig: Dadansoddiad Habermasaidd – Dr Dafydd Huw Rees, Prifysgol Caerdydd