Skip to main content Skip to footer

Datganiad hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd www.colegcymraeg.ac.uk

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i brif wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar www.colegcymraeg.ac.uk.

Defnyddio’r wefan hon

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n cynnal y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl ag sy’n bosib yn defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)


Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml ag sy’n bosibl i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gyda chi anabledd.

 

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • mae Termau yn API 3ydd parti
  • nid oes gan pob fideo sydd wedi ei fewnosod capsiynnau

 

Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig â hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â [email@colegcymraeg.ac.uk - *****].

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio, sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nodwyd y cynnwys nad yw’n hygyrch isod gyda manylion:

Oherwydd natur iaith y safle - nid yw darllenwyr sgrin yn cynnig cyfatebiaeth iaith lwyr yn eu dehongliad o gynnwys i'r Gymraeg.

Baich anghymesur

Offer rhyngweithiol

Mae Termau yn dibynnu ar offer API 3ydd parti sydd ddim yn cydymffurfio’n llwyr. Tra bod hwn tu allan i’n rheolaeth, mae’r API yn cael ei ddatblygu’n rheolaidd ac unwaith mae’r API yn cyfymddurfio, yna bydd dudalen Termau hefyd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn eu gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideos wedi’u mewnosod

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at fideos wedi’u mewnosod o lefydd fel YouTube heblaw am rhai mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn berchen arno oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae grŵp mewnol wedi'i sefydlu i greu map hygyrchedd er mwyn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.  Bydd y map yn cael ei gyhoeddi pan fydd wedi'i gwblhau.

Llunio’r Datganiad Hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hon ei greu ar 09 Chwefror 2023.

Mae datblygwyr ein gwefan yn cynnal profion a dilysu hygyrchedd a defnydd ar yr holl swyddogaethau a rhyngwynebau platfform craidd terfynol fel rhan o ddatblygiad parhaus AGILE y platfform.

Mae datblygwr y wefan yn profi holl swyddogaethau a nodweddion newydd y platfform fel rhan o'r broses ddatblygu sbrint sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Clystyrau o straeon defnyddwyr yw sbrintiau sy'n disgrifio'r nodwedd/swyddogaeth o safbwynt defnyddiwr (neu bersona) (e.e. Fel dysgwr dw i eisiau gallu gwneud ....) . O fewn cylchoedd y prosiect sbrint, mae straeon defnyddwyr yn cael eu cynnwys o safbwynt defnyddwyr hygyrch. Mae'r rhain yn rhan o'r broses Sicrwydd Ansawdd lle mae'r gwaith canlynol yn cael ei wneud.

  • Profion swyddogaethol – A yw'r nodwedd neu'r swyddogaeth yn gwneud yr hyn mae’n dweud bod angen iddo ei wneud yn stori'r defnyddiwr
  • Profion technegol – a yw'r ateb technegol wedi'i weithredu'n llwyddiannus o ran cod, perfformiad a thechnolegau a ddefnyddir
  • Profion defnyddiadwyedd – a yw'r nodwedd/swyddogaeth yn syml ac yn reddfol i'w defnyddio o safbwynt y defnyddiwr terfynol
  • Profion hygyrchedd – Profi yn erbyn canllawiau WCAG 2.0 a 2.1. Rydym yn ymdrechu i fodloni lefelau AA wrth brofi yn erbyn agweddau Perceivable, Gweithredol, Dealladwy a Chadarn ar y canllawiau.

Defnyddir yr offer a'r dulliau isod wrth brofi.