Skip to main content Skip to footer

Doctoriaid Yfory

Wyt ti am astudio Meddygaeth yn y brifysgol?

Beth am gofrestru i fod yn rhan o gynllun Doctoriaid Yfory?

Cynllun yw ‘Doctoriaid Yfory’ lle ry’n ni’n trefnu gwahanol weithgareddau ar dy gyfer, i dy baratoi di ar gyfer gwneud cais am le ar gwrs Meddygaeth. 

Mae gweithgareddau’r cynllun yn cynnwys:

  • Byddi di’n gallu cwrdd â phobl sy’n gweithio ym maes meddygaeth, a myfyrwyr sy’n astudio meddygaeth ar hyn o bryd, er mwyn clywed am eu profiadau nhw.
  • Byddi di’n dod i ddeall mwy am y sector a'r math o sgiliau sydd eu hangen arnat ti i weithio yn y byd meddygaeth.
  • Datblygu sgiliau i dy helpu i wneud cais llwyddiannus.
  • Dy baratoi ar gyfer y broses gyfweld.
  • Byddi hefyd yn cael gwybod pam y bydd gwneud rhan o’r cwrs Meddygaeth yn Gymraeg yn dy helpu di i gael swyddi yn y dyfodol.

Ymaelodi

Mae’r ffenestr i ymaelodi â’r cynllun yn agor ym mis Ionawr/Chwefror bob blwyddyn ac mae angen cwblhau ffurflen gais. 

Mae'r cynllun wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe wedi cytuno i gefnogi unrhyw un sydd eisiau astudio Meddygaeth. 

Am fwy o wybodaeth cysyllta â:

m.evans@colegcymraeg.ac.uk