Skip to main content Skip to footer

Ysgoloriaethau

Wyt ti’n mynd i'r brifysgol yng Nghymru? Wyt ti am astudio dy gwrs yn Gymraeg? 

Arian yn dy boced di!

Oeddet ti’n gwybod bod arian ar gael drwy nifer o ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg os wyt ti’n astudio rhan o dy gwrs yn Gymraeg? 

Nid benthyciad yw’r arian, a does dim rhaid ei dalu yn ôl! 

Mae mwy o wybodaeth am bob ysgoloriaeth ar waelod y dudalen.

Prif Ysgoloriaeth

Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000) 

Pwy: Myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 66%/80 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg ac yn cychwyn yn y Brifysgol ym Medi 2024.

Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr 

Cyfnod ymgeisio: 11 Medi - 24 Ionawr

Sut i ymgeisio: Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer Medi 2024 bellach ar gau 

Ysgoloriaeth Cymhelliant

Faint: £500 y flwyddyn am 3 blynedd (cyfanswm o £1,500) 

Pwy: Myfyrwyr sydd yn cychwyn yn y brifysgol yn Medi/Hydref 2024 ac sy'n astudio o leiaf 33%/40 credyd o’u cwrs yn Gymraeg mewn UNRHYW BWNC 

Cyrsiau: Unrhyw gwrs sy'n cynnig 33% o’r cwrs yn Gymraeg. Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr  

Dyddiad cau: Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer yr Ysgoloriaeth Cymhelliant bellach wedi cau.

Bydd ail ffenest ymgeisio ar gyfer yr Ysgoloriaeth Cymhelliant yn agor ym mis Medi 2024.

Ysgoloriaeth Meddygaeth

Faint: £500 y flwyddyn am 3 blynedd cyntaf y cwrs 

Pwy: Myfyrwyr sy'n astudio cwrs Meddygaeth mewn prifysgol yng Nghymru, ac sy'n astudio o leiaf 33%/40 credyd o'u cwrs yn Gymraeg 

Dyddiad cau: Mae'r dyddiad cau bellach wedi bod ar gyfer ceisiadau 2024.

Ysgoloriaeth Milfeddygaeth 'Defi Fet'

Faint: £500 y flwyddyn dros 5 mlynedd (cyfanswm o £2,500) 

Pwy: Myfyrwyr Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol (RVC). Yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i'r myfyrwyr ddilyn o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg. Disgwylir i'r myfyrwyr hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, cynorthwyo â dysgu Cymraeg i’w cyd-fyfyrwyr, cwblhau asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg ac ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) ar leoliadau a ffermydd Cymraeg. Yn ystod eu hamser yn yr RVC, rhaid i'r myfyrwyr ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Clinigol (CEMS) yng Nghymru mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog Cymraeg/Saesneg.  

Dyddiad cau: 24 Ionawr 2024

Sut i ymgeisio: Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer Medi 2024 ar agor. 

Bwrsariaeth Gareth Pierce

Er cof am ei gyn Brif Weithredwr, mae CBAC wedi creu Bwrsariaeth Gareth Pierce i gefnogi myfyrwyr sydd am astudio cwrs gradd Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Y Coleg Cymraeg sy'n gweinyddu’r bwrsariaethau ar ran CBAC. 

Faint: £3,000 am y flwyddyn gyntaf yn unig 

Pwy: Myfyrwyr sydd am astudio cwrs gradd Mathemateg ac am astudio o leiaf 33% o’u cwrs yn Gymraeg 

Dyddiad cau: Mae'r cyfnod ymgeisio AR AGOR hyd at 1 Hydref 2024

 

Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd

Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000) 

Pwy: Myfyrwyr sy'n byw yn ardal Gwynedd sy’n astudio eu cwrs cyfan (100%) yn Gymraeg 

Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr 

Sut i ymgeisio: Bydd enwebiadau ar gyfer 2024/25 yn cael eu dewis o blith y ceisiadau am Brif Ysgoloriaeth y Coleg.

Ysgoloriaeth Cyngor Môn

Faint: £500 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £1,500) 

Pwy: Myfyrwyr sy’n byw yn ardal Ynys Môn, sy’n astudio o leiaf 33%/40 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg 

Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr 

Dyddiad cau:  Mae'r ffurflen gais AR AGOR hyd at 1 Hydref 2024

 

Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies

Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000) 

Pwy: Myfyrwyr sydd am astudio’r Gyfraith, sy’n byw yn ardaloedd Meirionydd neu Rhondda Cynon Taf ac sydd am astudio o leiaf 66%/80 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg 

Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr. Dim ond yn weithredol ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Dyddiad cau: Bydd enwebiadau ar gyfer 2024/25 yn cael eu dewis o blith y ceisiadau am Brif Ysgoloriaeth y Coleg

 

Ysgoloriaeth Nyrsio Gwanwyn

Faint: £500 y flwyddyn am 3 blynedd (cyfanswm o £1,500) 

Pwy: Myfyrwyr Nyrsio sydd yn cychwyn yn y brifysgol yng Ngwanwyn 2024 ac sy'n astudio o leiaf 33%/40 credyd o’u cwrs Nyrsio yn Gymraeg 

Cyrsiau: Cwrs Nyrsio sy'n cynnig 33% o’r cwrs yn Gymraeg. Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr  

Dyddiad cau: Mae'r cyfnod ymgeisio AR AGOR hyd at 10 Mai 2024