Skip to main content Skip to footer

Coleg

MANTEISION ASTUDIO YN GYMRAEG – GWLAD. IAITH. BALCHDER.

Dy Gymraeg DI

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru - os wyt ti’n rhugl neu os mai dim ond gair neu ddau sydd gen ti. 

Efallai nad wyt ti’n hyderus yn siarad Cymraeg, ond yn joio canu ‘Yma o Hyd’? Weithiau, y cwbl sydd angen i ti ei wneud yw defnyddio’r geiriau syml ‘Bore da’ neu ‘Sut wyt ti?’ er mwyn dechrau dy sgwrs yn Gymraeg. 

Mae siarad Cymraeg yn agor drysau i ti;

  • Wrth siarad Cymraeg, bydd mwy o gyfleoedd i ti wneud ffrindiau ac i gymdeithasu  
  • Wrth siarad Cymraeg a Saesneg, fe alli di fod yn rhan o ddau ddiwylliant 
  • Wrth siarad Cymraeg, bydd mwy o swyddi ar gael i ti 
  • Dwy iaith – dwywaith y dewis 
  • Wrth siarad Cymraeg, mae mwy o gyrsiau ar gael i ti pan ddaw’r amser i ddewis cwrs coleg neu brifysgol 
  • Bydd gallu siarad Cymraeg a Saesneg o fantais i ti yn y dyfodol.  
Yn y ffilmiau hyn, mae rhai o’r dysgwyr a oedd yn arfer bod mewn colegau addysg bellach yn siarad am sut y gwnaeth defnyddio’r Gymraeg eu helpu nhw yn eu swyddi.  

 

Mae gen ti fantais – defnyddia dy Gymraeg

Mae siarad Cymraeg yn agor drysau i ti;

  • Bydd mwy o gyfleoedd i ti wneud ffrindiau ac i gymdeithasu os wnei di siarad Cymraeg 
  • Wrth siarad Cymraeg, a Saesneg, fe elli di fod yn rhan o ddau ddiwylliant 
  • Bydd mwy o swyddi ar gael i ti os wnei di siarad Cymraeg. Dwy iaith: dwywaith y dewis 
  • Cofia hefyd y bydd mwy o ddewis gen ti wedyn pan ddaw’r amser i ti ddewis cwrs coleg neu brifysgol.

Fideo 'Defnyddia dy Gymraeg' gan y Coleg Cymraeg

Ble mae’r colegau?

Clicia ar y map i chwilio am dy goleg lleol di a gweld y pynciau a’r gefnogaeth sydd ar gael yno i ti.

Colegau
Prentisiaethau
Prifysgolion
map of Wales

Fideo 'Defnyddia dy Gymraeg' gan y Coleg Cymraeg

BLOGIAU LLYSGENHADON

Dysga am brofiadau ein Llysgenhadon Addysg Bellach, eu rôl, eu diddordebau, a’r cyfleodd sydd ar gael yn y coleg.  
Blog Llysgennad Cymraeg Coleg Gwent, Kate Atwell

“Mae'n rhaid i mi gyfaddef, wedi i mi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ers yn blentyn, roeddwn i braidd yn nerfus yn dechrau gyda’r coleg gan fy mod i’n credu y byddai’r cyfleoedd i gyfathrebu yn Gymraeg yn gyfyngedig. Ro’n i wrth fy modd felly pan glywes i am rôl ‘Bydi Cymraeg’ y coleg, gan y byddai’n rhoi’r cyfle imi barhau i gymdeithasu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.” 

Fy mlwyddyn i yng Ngholeg Cambria

“Fy enw i yw Lewis ac rwy'n astudio cwrs Gofal Plant lefel 3 yng Nglannau Dyfrdwy. Mae chwarae, dysgu a datblygiad plentyn yn rhai o’r pethau ry’n ni’n edrych arnyn nhw.” 

Porth Adnoddau

CADW CYSWLLT

Wyt ti eisiau clywed mwy amdanon ni a’r pethe ry’n ni’n eu gwneud? 

Dere i ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol! Os wyt ti yn yr ysgol, mewn coleg, yn gwneud prentisiaeth, yn aelod o staff, yn rhiant neu'n athro - neu'n rhywun sydd eisiau clywed mwy am waith y coleg - gelli di ddod yn aelod. 

Mae ffurflen syml ar gael islaw. 

Bob nawr ac yn y man, bydd gwybodaeth allai fod o ddiddordeb i ti yn cael ei ebostio atat ti.