Bywyd Myfyriwr Ôl-raddedig
Bywyd myfyriwr ôl-raddedig
Sut brofiad yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig?
Mae myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu cael profiadau o astudio a chymdeithasu yn Gymraeg, hyd yn oed os ydyn nhw’n astudio mewn gwlad arall. Yn y rhan hon, fe gei di wybod am brofiadau rhai o’n llysgenhadon ôl-raddedig. Mae rhai yn byw ac yn astudio yng Nghymru, ac eraill y tu hwnt i Gymru!
Llysgenhadon Ôl-raddedig
Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, mae’r Coleg yn penodi llysgenhadon ôl-raddedig am gyfnod o flwyddyn.
Sut byddai’r rôl llysgennad ôl-raddedig yn fy helpu i? Wel, fe allai fod o fudd i dy CV, rhoi cyfle i ti gael dy weld, a helpu dy ddatblygiad fel academydd. Ry’n ni eisiau i'r criw sy’n dod yn lysgenhadon ddatblygu ‘cymuned ôl-raddedig’ cyfrwng Cymraeg (gyda chefnogaeth y CCC).
Nid ni fydd yn dweud beth ddylai’r llysgenhadon fod yn ei wneud. Mae hwn yn gyfle i chi ddweud beth y mae myfyrwyr ôl-raddedig wir ei angen, ac i rannu gwybodaeth am y math o gefnogaeth sydd eisoes ar gael (e.e. Rhaglen Sgiliau Ymchwil ac ati).
Ddim yn astudio yng Nghymru? Dim problem! Os nei di ddod yn llysgennad ôl-raddedig, gei di sawl cyfle i wneud pethau drwy gyfwng y Gymraeg allai fod o help i dy ymchwil. Fel ysgrifennu erthygl Gymraeg i Gwerddon Fach, gweithio ar ein stondin mewn Eisteddfodau neu ddigwyddiadau, a chael cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Hyn i gyd a mwy... a chael dy dalu!