Llysgenhadon
#SŵnyStiwdants
Beth yw llysgennad?
Myfyrwyr o rai o’n prifysgolion ni yng Nghymru ydyn nhw, ac maen nhw’n helpu’r Coleg Cymraeg i siarad â phobl am astudio yn Gymraeg, yr ysgoloriaethau sydd ar gael, yr Undebau Cymraeg a digwyddiadau allai fod o ddiddordeb i ti.
Maen nhw hefyd yn cael y cyfle i lunio blogiau a gweithio ar ein cyfrifon cymdeithasol. Bob blwyddyn, mae’r llysgenhadon yn cael cynnig i weithio ar ein stondin yn yr Eisteddfodau, a hefyd yn cael yr opsiwn i fynd o amgylch ysgolion gydag aelod o dîm marchnata’r Coleg Cymraeg i siarad â disgyblion.
Os hoffet ti glywed mwy am sut beth yw bod yn llysgennad mewn prifysgolion yng Nghymru, cer i'n tudalen Instagram, ‘Dy ddyfodol di’, a chwilia am ‘Coleg Cymraeg’ ar Facebook.
Dyma griw o gyn-lysgenhadon o Brifysgol Caerdydd yn mwynhau!

Hoffet ti fod yn llysgennad?
- Wyt ti eisiau rhoi sgiliau ychwanegol ar dy CV?
- Eisiau magu hyder wrth gyfathrebu yn Gymraeg?
- Eisiau derbyn arian ychwanegol wrth astudio?
Ry’n ni’n recriwtio bob mis Tachwedd! Cadwa lygad allan am fwy o fanylion ar sut i ymgeisio!