Skip to main content Skip to footer

Gweithwyr Iechyd Yfory

Wyt ti am astudio cwrs iechyd yn y brifysgol?

Beth am gofrestru i fod yn rhan o gynllun Gweithwyr Iechyd Yfory?

Cynllun ydy ‘Gweithwyr Iechyd Yfory’ sydd wedi ei anelu at ddisgyblion blwyddyn 12 ac israddedigion, sydd am wneud cais i astudio pynciau sy’n gysylltiedig ag iechyd, yn arbennig Bydwreigiaeth, Fferylliaeth, Therapi Iaith a Lleferydd a Ffisiotherapi.

Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth arbennigol gyda’r broses ymgeisio ac mae’r aelodau yn derbyn cefnogaeth arbenigol gan staff Prifysgolion Caerdydd/Abertawe/Met Caerdydd/Bangor/Wrecsam, yn ogystal â myfyrwyr cyfredol.

Ymaelodi â'r cynllun

Bydd y ffenestr i ymaelodi â’r cynllun yn agor ym mis Ionawr/Chwefror bob blwyddyn.

Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer 2024 bellach wedi cau.

Gweler islaw, manylion y sesiynau sy'n cael eu darparu eleni.

Sesiynau 2024:

24 Ebrill (4:30-5:30) ar Teams
Sesiwn 1 - Croeso i'r Cynllun

Croeso i’r cynllun a cyfarfod y darlithwyr. 

15 Mai (4:30-5:30) ar Teams
Profiad Gwaith

Profiad gwaith a datblygu’r sgiliau perthnasol i weithio yn y sector iechyd.  

12 Mehefin (4:30 - 5:30) ar Teams
Cyfarfod Ymarferwyr Proffesiynol

Cyfle i gyfarfod ymarferwyr proffesiynol ac i ddysgu am eu gwaith. 

2 Hydref (4:30 - 5:30) ar Teams
Datganiad Personol

Sut i ysgrifennu datganiadau personol effeithiol. 

16 Hydref (4:30 - 5:30) ar Teams
Cyfweliadau

Cyfle i drafod sgiliau cyfweld.