Skip to main content Skip to footer

Cynllun Gwreiddio 

Croeso i'r Cynllun Gwreiddio

Dyma ein cynllun i bawb sy’n gweithio yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau. Drwy ymuno â’r cynllun hwn, fe fyddwch yn rhan o gymuned frwdfrydig o staff sy’n gweithio'n ddwyieithog ar draws y sector. Byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau newydd a chyfleoedd hyfforddiant, a gallwch rwydweithio â staff ar draws y wlad. Darllenwch fwy drwy glicio ar y botwm isod.

Pecyn gwybodaeth

Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, byddwn yn trefnu cynhadledd i aelodau’r cynllun ddod at ei gilydd i rannu arferion da, ac i roi gwobrau i gydnabod cyfraniad unigolion drwy eu gwaith yn y sector. Mae croeso i chi enwebu cydweithwyr ar gyfer y gwobrau hyn:

  • Gwobr addysgwr arloesol   
  • Gwobr am gyfraniad arbennig  
  • Gwobr am gyfoethogi profiad y dysgwyr/prentisiaid

Ni fydd yn rhaid i chi wneud unrhyw beth er mwyn ymuno â’r cynllun. Y syniad ydy bod hwn yn ffordd i chi dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf oddi wrthyn ni, a chlywed am gyfleoedd am hyfforddiant.

circular graphic

Cynllun Gwreiddio

Cofrestrwch ar gyfer y cynllun heddiw. Does dim gwahaniaeth faint o Gymraeg sydd gennych chi. Ry’n ni eisiau i bawb deimlo’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. 

Ymaelodi Cynllun Gwreiddio

Cwrs Cynyddu Hyder i Aseswyr  

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn rhoi'r adnoddau a'r wybodaeth i chi weithio yn ddwyieithog ac yn hyderus gyda’ch prentisiaid. Yn y cwrs, mae gwybodaeth ac adnoddau a fydd, gobeithio, yn rhoi’r hwb hwnnw i chi allu datblygu darpariaeth a gweithio yn hyderus yn y Gymraeg. 

Cwrs Codi Hyder

Mewnosod y Gymraeg 

Ry’n ni eisiau gwneud yn siŵr bod digon o staff yn gallu siarad gyda dysgwyr yn ddwyieithog yn y colegau ar draws y wlad. Mae sawl ffordd y gallwn ni eich helpu chi i ddod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y dosbarth.

Un sesiwn allai fod o help ydy’r un ar adnabod adnoddau dwyieithog, fydd yn rhoi mwy o hyder i chi gefnogi dysgwyr yn eich dosbarth sy’n siarad Cymraeg. 

Drwy gydol y flwyddyn academaidd, byddwn yn cynnal gweminarau i staff ddod at ei gilydd i rannu arferion da. Bydd y sesiynau hyn yn gyfle i chi ddatblygu eich sgiliau addysgu dwyieithog.  

Ry’n ni eisiau i bawb yn y coleg deimlo'n hyderus yn defnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd gennych chi yn eich gwaith. Ebostiwch post16@colegcymraeg.ac.uk am fwy o wybodaeth.

Sgiliaith ydy enw’r cwmni sy’n cynnal y Rhaglen Datblygu Staff Genedlaethol ar ran y Coleg. Gallen nhw weithio gyda chi i'ch cefnogi i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y dosbarth.

Cliciwch ar y botwm isod i weld mwy o wybodaeth am y cyfleoedd i hyfforddi gyda Sgiliaith, neu ebostiwch y tîm Sgiliaith - sgiliaith@gllm.ac.uk 

Prosbectws Sgiliaith