Skip to main content Skip to footer

Hyfforddiant Datblygu Staff 

Hyfforddiant Datblygu Staff  

Mae’r Coleg yn trefnu sesiynau hyfforddi ar gyfer staff er mwyn rhoi gwybod i chi pa gefnogaeth sydd ar gael o fewn eich sefydliad. Y gobaith yw bod y sesiynau hyn hefyd yn gallu eich helpu chi i ragori yn eich gwaith academaidd yng Nghymru.  

Mae croeso i unrhyw un dderbyn yr hyfforddiant hwn, ac mae hwn yn gyfle i staff rannu profiadau, meithrin arferion academaidd da, a datblygu sgiliau addysgu.  

Fel arfer, mae’r sesiynau hyfforddi byw yn cael eu cynnal ar Teams. Mae’r Coleg hefyd wedi datblygu nifer o adnoddau hyfforddi ar gyfer staff – gallwch ddod o hyd i'r rheiny ar y Porth Adnoddau.  

PORTH ADNODDAU

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyfforddiant, anfonwch neges at: datstaff@colegcymraeg.ac.uk