Skip to main content Skip to footer

Pam Astudio yn Gymraeg?

Llun myfyrwyr prifysgol

Dere i ddysgu rhan o dy gwrs prifysgol yn Gymraeg 

Os wyt ti’n meddwl mynd i brifysgol yng Nghymru, wyt ti wedi meddwl am wneud rhan o dy gwrs yn Gymraeg? 

Erbyn hyn, mae dros 1,000 o gyrsiau ar gael i'w hastudio'n rhannol neu yn gyfan gwbl yn Gymraeg. 

O Feddygaeth i Fathemateg, o Chwaraeon i Hanes, Newyddiaduraeth a Cherddoriaeth – dyma dim ond rhai o’r cyrsiau sydd ar gael i ti yn Gymraeg. 

Mae lot o fanteision i ddewis astudio cwrs prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg: 

circular graphic

Manteision astudio cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg

Os gwnei di astudio rhan o dy gwrs, neu’r cwrs cyfan, drwy gyfrwng y Gymraeg, byddi di’n rhoi’r cyfle gorau i ti dy hun pan fyddi di’n chwilio am swyddi! 

Arian

Os wyt ti’n dilyn cyrsiau neu fodiwlau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, bydd gen ti gyfle wedyn i gael help drwy un o ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae nifer o brifysgolion hefyd yn cynnig arian i fyfyrwyr am astudio rhan o’u cwrs yn Gymraeg.

Digon o ddewis

Os wyt ti’n fyfyriwr sy’n rhugl yn y Gymraeg ac yn hyderus yn yr iaith, yn llai hyderus, neu'n dysgu Cymraeg – mae digon o ddewis i ti. 

O gyrsiau gradd sy'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg i gyrsiau lle mae rhai modiwlau yn Gymraeg. Mae rhai pynciau yn cynnig dosbarthiadau seminar a thiwtorialau yn Gymraeg a chyrsiau eraill yn cynnig y rheini yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Ond mae gan bob myfyriwr yr hawl i ysgrifennu ei waith cwrs ac i sefyll arholiadau yn Gymraeg, hyd yn oed os wyt ti wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. Os gwnei di barhau i astudio dy holl gwrs, neu ran ohono, drwy gyfrwng y Gymraeg, byddi di’n datblygu dy sgiliau yn y ddwy iaith. Bydd hyn yn agor drysau i ti wedi i ti adael y brifysgol.

Cer i edrych ar ein chwilotydd cyrsiau ni i weld faint o gyrsiau sydd ar gael i ti yn Gymraeg a/neu i weld a yw dy gwrs di ar gael i'w astudio yn Gymraeg. 

Y dulliau dysgu diweddaraf

Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg prifysgolion Cymru yn defnyddio nifer o’r technegau dysgu diweddara fel fideo-gynadledda, cyrsiau preswyl, sesiynau ymarferol gan arbenigwyr proffesiynol ac adnoddau ar-lein. Maen nhw’n defnyddio’r rhain ochr yn ochr â’r dulliau dysgu mwy traddodiadol, fel darlithoedd a’r llyfrgell.

Darlithwyr ac adnoddau gwych

Mae darlithwyr cyrsiau cyfrwng Cymraeg yn arbenigwyr yn eu meysydd, a bydd astudio gyda nhw yn golygu y bydd gen ti olwg byd eang ar dy bwnc.

Hefyd, mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol lyfrgell ddigidol enfawr o adnoddau Cymraeg fydd yn cefnogi dy astudiaethau.

O daflenni gwaith a therminoleg, i e-lyfrau a fideos, mae pob dim wyt ti ei angen i lwyddo mewn un lle... Y Porth!

Y cyfle gorau i gael swydd

Mae’r gallu i siarad Cymraeg o fantais mawr wrth chwilio am waith. Mae gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru sy’n golygu bod nifer fawr o gyflogwyr yng Nghymru yn chwilio am bobl sydd wedi graddio o’r brifysgol ac sy’n gallu gweithio yn y ddwy iaith.

Mae siarad Cymraeg yn cael ei gyfrif fel sgìl ychwanegol yn y gweithle, yng Nghymru a thu hwnt. Felly, gallai astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog dy helpu wrth i ti chwilio am waith.

Cyfle i ddatblygu

Rhaid cofio hefyd bod mwy i’r brifysgol na dim ond dysgu! Cofia gymryd rhan yn y bywyd Cymraeg bywiog sydd ar gael i ti ym mhrifysgolion Cymru.

Hefyd, mae siarad, darllen ac ysgrifennu mewn mwy nag un iaith yn dda iawn i dy ymennydd, gan dy helpu i fod yn fwy creadigol, datblygu sgiliau meddyliol a gwella sgiliau mathemategol.