Skip to main content Skip to footer

Datblygu Sgiliau Iaith Gymraeg 

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau Cymraeg?

Mae cynlluniau a chefnogaeth ar gael i staff prifysgolion, faint bynnag o Gymraeg sydd gennych chi. 

Os ydych chi’n siaradwr gwbl newydd, neu angen ychydig o help i godi hyder, mae sawl opsiwn ar gael. 

Cymraeg Gwaith  

Cynllun yw hwn sy’n cynnig 120 awr o hyfforddiant iaith mewn blwyddyn i staff ar bob lefel - o lefel Mynediad i lefel Hyfedredd. Y bwriad yw y byddwch yn cwblhau lefel gyfan yn ystod y flwyddyn academaidd honno.   

Gallwch gael yr hyfforddiant ar ffurf dosbarthiadau wythnosol neu drwy hunan-astudio. Bydd tiwtoriaid a chydlynwyr ar gael ym mhob prifysgol i'ch helpu. 

Cymraeg Gwaith+  

Dyma gynllun newydd sydd ar gael i staff academaidd ar lefelau Uwch a Hyfedredd.  

Byddwch yn dilyn rhaglen wedi’i theilwra i anghenion unigol, dan ofal tiwtor personol.   

Bwriad y cynllun yw rhoi cefnogaeth arbenigol a chodi hyder er mwyn galluogi staff i ddysgu cyrsiau yn y Gymraeg, neu gynnig elfennau o gyrsiau yn y Gymraeg, yn y flwyddyn academaidd ar ôl cwblhau’r cynllun.  

Cefnogaeth arall 

Mae tiwtoriaid y Dystysgrif Sgiliau Iaith yn y prifysgolion hefyd yn cynnig cefnogaeth sgiliau iaith i staff.  

Gall staff sefyll y Dystysgrif Sgiliau Iaith gyda chymorth tiwtor, mewn cyfres o sesiynau.  

Os yw eich Adran yn derbyn Grant Pynciol neu Grant Sbarduno gan y Coleg Cymraeg, bydd y tiwtor yn cysylltu â’ch Adran i gynnig cefnogaeth sgiliau iaith. Neu mae modd cysylltu â’r tiwtor i wneud cais am gefnogaeth benodol.  

Am ymholiadau ynghylch Cymraeg Gwaith a Cymraeg Gwaith+: o.thomas@colegcymraeg.ac.uk 

Am ymholiadau ynghylch y Dystysgrif Sgiliau Iaith a/neu gefnogaeth tiwtor: tsi@colegcymraeg.ac.uk   

 

Ewch amdani!